Tystysgrifau mangre clwb
Mae clybiau gwirfoddol a chymdeithasol yn cynnal gweithgareddau o fangreoedd lle cyfyngir ar fynediad gan y cyhoedd a lle cyflenwir alcohol am resymau ac eithrio elw. Dylai fod ganddynt dystysgrif mangre clwb.
Mae'r clybiau hyn (fel Y Lleng Brydeinig Frenhinol, clwb gweithwyr neu glybiau criced neu rygbi) fel arfer yn sefydliadau lle mae aelodau'n dod ynghyd at ddiben cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol. Mae aelodau'r clybiau'n dod at ei gilydd i brynu alcohol mewn swmp ar gyfer aelodau
Mae mangre clwb yn gallu gwerthu alcohol i aelodau a'i werth i westeion heb fod angen deiliad trwydded bersonol na goruchwylydd mangre dynodedig.
Sut mae gwneud cais
Lawrlwythwch y ffurflen gais mangre clwb (PDF, 247 KB) i wneud cais drwy'r post.
Lawrlwythwch y ffurflen gais amrywio tystysgrif mangre clwb (PDF, 229 KB) i wneud cais drwy'r post.
Gwnewch ddatganiad ar gyfer tystysgrif mangre clwb ar-lein Datganiad ar gyfer tystysgrif mangre clwb
Dylech lenwi'r ffurflen gais yn llawn. Os oes ffi, bydd angen i chi dalu pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.
Dylech hefyd gynnwys cynllun o'r fangre a chopi o reoliadau'r clwb pan fo angen.
Ffïoedd
Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003 Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003
Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.
Caniatâd dealledig
Mae gennym gyfnod targed o 40 niwrnod i brosesu'r hysbysiad hwn. Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn. Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl y cyfnod hwn, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.
Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau pan fyddwn yn derbyn cais cyflawn, gan gynnwys dogfennau ategol a thâl.
Ar gyfer mân amrywiadau nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol.Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych yn clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
Os oes gennych broblemau gyda'ch cais neu hoffech gael mwy o wybodaeth neu weld y gofrestr mangreoedd, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sydd am apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei dystysgrif apelio i'w lys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i'r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
Mae gennym gofrestr gyhoeddus sy'n nodi'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. I weld y gofrestr, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu i drefnu amser. Mae'r gofrestr ar gael i'w gweld yn ystod oriau swyddfa yn unig.