Marchnata digwyddiadau
Mae rhywbeth anhygoel yn digwydd yn ein dinas bob dydd, p'un a oes gennych ddiddordeb mewn cerddoriaeth, celf, bwyd neu hwyl yn yr awyr agored. Mae'r Tîm Gwasanaethau Diwylliannol yn cefnogi'r digwyddiadau hyn pryd bynnag y bo modd drwy ei lwyfannau marchnata Dewch i Fae Abertawe a Joio Bae Abertawe.
Mae Joio Bae Abertawe'n cynnig nifer o gyfleoedd marchnata. Os hoffech i'ch digwyddiad gael sylw, ei hyrwyddo ar ffurf e-shot i dros 9k o bobl, ei hybu ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu, os hoffech roi hysbyseb baner ar ein gwefan, ewch i . Yma mae gennym amrywiaeth o becynnau marchnata fforddiadwy i'w cynnig.
Yn ogystal, rydym am greu'r adnodd gorau posib o bethau i'w gwneud yn Abertawe. O gofio hyn, rydym yn cynnig y cyfle i chi hysbysebu'ch digwyddiad i filoedd o bobl drwy ei restru ar ein gwefan AM DDIM.