Rhybudd i drigolion lleol - Masnachwyr twyllodrus yn Abertawe
Mae Safonau Masnach Abertawe wedi cyhoeddi rhybudd am fasnachwr twyllodrus y gwyddys ei fod yn gweithredu nawr mewn sawl ardal yn Abertawe.
Rydym yn ymwybodol bod busnes wedi bod yn dosbarthu taflenni yn Abertawe yn cynnig gwneud gwaith garddio gyda gostyngiad da iawn i aelwydydd sy'n cytuno i'r gwaith gael ei wneud ar unwaith. Efallai na fydd y gwaith wedi'i gyfyngu i arddio; mae'n hysbys hefyd fod y busnes yn y gorffennol wedi cynnig gwaith adeiladu cyffredinol a phatios.
Mae'n hysbys bod y busnes hwn yn defnyddio gwahanol gyfeiriadau wrth weithio mewn gwahanol ardaloedd i roi'r argraff eu bod yn lleol, ond nid dyna'r achos. Dim ond enw stryd yn Abertawe a roddir fel cyfeiriad ar y daflen a byddai defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd iawn dod o hyd iddynt os na chafodd y gwaith ei wneud, neu os oedd y gwaith yn wael.
Mae Safonau Masnach Abertawe am rybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o'r busnes hwn, a masnachwyr twyllodrus yn gyffredinol, a fydd yn manteisio ar y tywydd da i dwyllo aelwydydd. Gan fod yr aelwydydd dan gyfyngiadau symud, mae perygl y cânt eu dychryn gan i gytuno i gael gwaith wedi'i wneud, gwaith y dywedir wrthynt gan dwyllwyr bod angen ei wneud. Efallai y byddant yn teimlo nad oes ganddynt yr opsiynau y byddai ganddynt fel arfer ac na allant alw ar ffrindiau a chymdogion i'w helpu.
Mae Safonau Masnach yn gofyn i ddefnyddwyr fod yn wyliadwrus o alwyr carreg drws a'r rheini sy'n dosbarthu taflenni a chymryd camau i sicrhau nad ydynt yn dod yn ddioddefwyr gweithredoedd masnachwyr twyllodrus. Mae Safonau Masnach wedi cyhoeddi cyngor i helpu defnyddwyr y mae masnachwyr yn cysylltu â nhw ar garreg y drws:
- peidiwch byth â chytuno i unrhyw waith yn y fan a'r lle a pheidiwch â thalu neb chwaith. Peidiwch â thalu arian parod ar garreg y drws!
- peidiwch â gadael i alwyr carreg drws roi pwysau arnoch. Dylech bob amser gael dyfynbrisiau ysgrifenedig gan o leiaf ddau fasnachwr am unrhyw waith fel y gallwch sicrhau eich bod yn talu pris teg.
- peidiwch â chael eich camarwain. Efallai y byddan nhw'n dweud mai dim ond am gyfnod byr maen nhw yn yr ardal. Efallai y byddan nhw'n dweud wrthych eu bod wedi gwneud gwaith ar dŷ eich cymydog. Efallai y byddant yn cynnig gostyngiadau mawr i chi os ydych yn cytuno i'r gwaith gael ei wneud ar unwaith. Gofynnwch i'ch hun pam eu bod mor awyddus i chi gytuno mor gyflym.
- os byddant yn postio taflen drwy eich drws, gwnewch eich gwaith ymchwil yn gyntaf. Ydyn nhw wedi rhoi eu manylion llawn - a oes cyfeiriad llawn a phriodol rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â nhw eto? Ai dim ond rhif ffôn symudol sydd yno? Gofynnwch i'ch hun sut y gallwch fod yn siŵr ei fod yn fusnes dilys os nad ydych yn gwybod dim amdanynt.
- os ydynt yn honni eu bod yn gwbl gymwys, neu'n gofrestredig, gofynnwch i weld prawf o hyn yn gyntaf.
- cytunwch ar y pris, y trefniadau talu a'r dyddiadau dechrau/gorffen yn ysgrifenedig cyn i unrhyw waith ddechrau ar eich cartref. PEIDIWCH byth â thalu'r swm llawn iddynt ymlaen llaw
- RHAID i fasnachwyr carreg drws roi gwaith papur i chi gyda manylion y gwaith, y pris, eu manylion cyswllt a gwybodaeth am eich hawl 14 diwrnod i ganslo heb gosb. Os ydyn nhw'n amharod i roi gwaith papur i chi, gofynnwch i chi'ch hun, pam? Os na fyddant yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi o'ch hawl i ganslo maent yn torri'r gyfraith
- peidiwch â thalu'n llawn nes eich bod yn gwbl fodlon ar y gwaith.
- cadwch eich cartref a'ch eiddo'n ddiogel yn ystod y gwaith
Cofiwch y cynllun tri cham
Un: Os ydych chi'n amau, peidiwch â'i adael i mewn. Mae'n swnio'n syml, ond os nad ydych chi'n gadael rhywun i mewn - byddant yn diflannu. Peidiwch ag ildio i bwysau i agor eich drws.
Dau: Byddwch yn barod. Byddwch mewn rheolaeth. Meddyliwch am beth i'w ddweud wrth unrhyw alwyr diwahoddiad carreg drws ymlaen llaw. A chadwch restr o rifau cyswllt allweddol ger eich ffôn er mwyn i chi allu gwirio galwyr cyfreithlon gan ddefnyddio rhifau cyswllt dibynadwy ar eu cyfer. Mae gennych hawl i ofyn i bob galwr dieisiau arall fynd i ffwrdd a pheidio â dychwelyd.
Tri: Ffoniwch gymydog neu'r heddlu os ydych yn amheus o'r galwr diwahoddiad. Cysylltwch â pherthynas leol neu gymydog enwebedig a all helpu i ddilysu galwr diwahoddiad. Os ydych yn meddwl bod rhywun yn fasnachwr twyllodrus, ffoniwch 101. I roi gwybod i'r heddlu am leidr tynnu sylw neu fasnachwr twyllodrus sydd wedi mynd â'ch arian ac yn dal i fod yn yr ardal, ffoniwch ( 999.
I gael cyngor pellach, neu os ydych yn pryderu am fasnachwr, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0808 223 1133.
Daw'r rhybudd o dwyll hwn o fis Mai 2020.