Toglo gwelededd dewislen symudol

Model Dichonoldeb Datblygu (MDD)

Mae'r cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, ochr yn ochr â'r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi, Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu offeryn asesu Model Dichonoldeb Datblygu (MDD). Crëwyd y MDD fel model cynhwysfawr hawdd ei ddefnyddio y gellir ei ddefnyddio gan hyrwyddwyr safleoedd a phenderfynwyr at ddiben asesu dichonoldeb ariannol cynnig datblygu.

Offeryn arfarnu 'sy'n benodol i safle' yw'r MDD, sydd wedi'i gynhyrchu i weithio gyda Microsoft Excel ar gyfer Office 365, gan redeg ar Microsoft Windows. Ceir manylion pellach manylebau'r MDD yn y Canllaw i Ddefnyddwyr, y gellir ei lawrlwytho isod.  Bydd pob copi o'r model a roddir gan y cyngor wedi'i 'gloi' i safle datblygu penodol. Gellir ailddefnyddio'r un copi o'r model fodd bynnag i asesu mwy nag un sefyllfa arfaethedig ar gyfer datblygiad y safle penodol.

The DVM is endorsed by the Council as an appropriate tool for submitting required viability assessments in support of LDP 'Candidate Site' submissions.  National Guidance in Planning Policy Wales (PPW), requires that when submitting Candidate Sites "land owners/developers must carry out an initial site viability assessment and provide evidence to demonstrate the financial deliverability of their sites"(PPW, para 4.2.19).  

Gall y cyngor sicrhau bod y MDD ar gael i ddatblygwyr, hyrwyddwyr safleoedd neu unrhyw unigolyn/sefydliad arall at ddiben cynnal arfarniad dichonoldeb ariannol (ADA) o ddatblygiad arfaethedig. Caiff y model ei ryddhau ar sail safle penodol yn amodol ar y cyngor yn derbyn taliad ffi safonol.

Mae'r ffïoedd safonol a fydd yn berthnasol yn cynnwys amser gweinyddol y cyngor, amser sydd ei angen i bersonoli a chyflwyno'r model ar gyfer y safle penodol, yn ogystal ag amser swyddogion sy'n angenrheidiol i gynnal adolygiad hollbwysig o'r ADA a gyflwynwyd ar gyfer safle ymgeisiol. Mae strwythur ffïoedd haenog yn berthnasol, sy'n seiliedig ar faint a graddfa'r safle. Pennir y ffi gan y cyngor, a fydd yn ystyried yr hyn sydd yn eu tyb nhw yn nifer priodol o unedau preswyl y gellid eu cynnwys yn rhesymol ar y safle. Mae'r ymagwedd haenog at ffïoedd yn cydnabod y bydd maint a chwmpas y cynnig datblygu'n dylanwadu ar faint o amser swyddogion fydd ei angen i gynnal adolygiad hollbwysig o'r MDD gorffenedig a gyflwynwyd.

Dyma'r rhestr ffïoedd safonol (mae'r holl daliadau'n destun TAW a gallant newid dros amser):

Safleoedd ag 1-9 uned £195

Safleoedd â 10-50 o unedau £345

Safleoedd â 51 - 100 o unedau - £495

Safleoedd â mwy na 100 o unedau - cytunir ar y gost gyda'r cyngor gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod y cynnig

Sylwer bod y ffïoedd uchod yn ymwneud â chyflwyniadau MDD sy'n cefnogi Safleoedd Ymgeisiol y CDLl.   Gellir defnyddio'r MDD hefyd fel offeryn i roi tystiolaeth o ddichonoldeb ariannol cynnig datblygu ar y cam cais cynllunio.  E-bostiwch y cyngor yn CDLl@abertawe.gov.uk  os hoffech drafod ymhellach y defnydd o'r MDD at y diben hwn, gan gynnwys gwybodaeth am y ffïoedd a fydd yn berthnasol.

Bydd yr adolygiad hollbwysig y bydd y cyngor yn ei gynnal o gyflwyniad MDD gorffenedig i gefnogi safle ymgeisiol yn gwirio priodoldeb yr wybodaeth a ddarparwyd gan hyrwyddwr y safle fel rhan o'r arfarniad.  Bydd y broses hon hefyd yn sicrhau bod y celloedd yn nhaenlenni'r MDD wedi'u cwblhau'n briodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw'r:

a) dystiolaeth a ddarparwyd i ategu'r costau a'r gwerthoedd a ddefnyddiwyd yn y MDD a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn gymesur;

b) amserlen awgrymedig ar gyfer y datblygiad yn realistig; a

c) a yw'r MDD yn cyd-fynd â gofynion polisi'r cyngor a chyda chanllawiau eraill a/neu ddatganiadau polisi sy'n berthnasol i'r asesiad o ddichonoldeb mewn cyd-destun cynllunio.

Ar ôl cwblhau'r arolwg hollbwysig, bydd y cyngor yn cyhoeddi datganiad syml i hyrwyddwr y safle a fydd yn dangos i ba raddau y mae'n ystyried bod y MDD yn bodloni'r profion a amlinellwyd uchod.Pwysleisir bod y rhestr ffïoedd safonol yn cynnwys rhyddhau'r model ac adolygiad lefel uchel ar y cam safle ymgeisiol ac nid yw'n caniatáu ar gyfer unrhyw amser y gall hyrwyddwr safle fod yn dymuno'i dreulio yn trafod canfyddiadau adolygiad hollbwysig cychwynnol y cyngor o MDD. Mae'n bosib y bydd ffïoedd ychwanegol yn berthnasol mewn achosion lle bydd angen rhagor o amser swyddog gan fod hyrwyddwr safle wedi trafod ymhellach â'r cyngor ynghylch yr arfarniad cychwynnol a gyflwynwyd, a/neu os yw'r dystiolaeth ategol a gyflwynwyd yn annigonol a bydd angen ei hailgyflwyno.Efallai y bydd angen i'r cyngor alw ar ei Syrfewyr Prisiant Siartredig neu gael arbenigedd gan drydydd parti, er enghraifft lle mae angen cynnal asesiadau cynhwysfawr o'r costau anghyffredin a gyflwynir. Byddai angen i'r datblygwr/hyrwyddwr safle dalu'r costau sy'n gysylltiedig â hyn, a bydd y cyngor yn trafod costau o'r fath os bydd angen gwneud gwaith ychwanegol.

Mae'r cyngor yn cydnabod y gall peth o'r wybodaeth y mae ei hangen i ddangos  dichonoldeb gael ei hystyried gan hyrwyddwr y safle'n wybodaeth fasnachol sensitif. Fodd bynnag, fel y nodir yn Llawlyfr CDLl Llywodraeth Cymru, nid yw'r mater hwn o  sensitifrwydd yn ddigon o reswm i osgoi darparu'r dystiolaeth briodol (Llawlyfr y CDLl, para. 5.96). Ni fydd pob MDD a gyflwynir ar gael yn gyhoeddus, a chaiff ei drin yn gyfrinachol rhwng y cyngor a'r person neu'r sefydliad sydd wedi'i gyflwyno. Prif ddiben y MDD yw dangos a yw cynnig datblygu a/neu'r safle arfaethedig ar ei gyfer yn debygol o fod yn "ddichonadwy" neu beidio. Lle bydd yn angenrheidiol neu'n briodol i wybodaeth o MDD gael ei rhyddhau fel  tystiolaeth, er enghraifft, i gefnogi dyrannu safle penodol yn CDLl y cyngor, bydd y cyngor yn trafod i ba raddau y gellir rhyddhau'r fath wybodaeth â hyrwyddwr y safle.

Lluniwyd Arweiniad Defnyddiwr manwl (PDF) [1MB] (neu lawlyfr cyfarwyddiadau) i ddisgrifio sut mae'r MDD yn gweithio; ac i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i'r defnyddiwr ei mewnbynnu yn y celloedd perthnasol. Mae pob copi o'r MDD hefyd yn cynnwys "Arweiniad Cyflym" ar gyfer y rheini sy'n cynnal asesiad o safle datblygu preswyl yn unig nad yw'n sylweddol fwy na 5 erw (2 hectar). Dywedir wrth ddefnyddwyr hefyd fod y model yn cynnwys nodiadau cymorth, sydd wedi'u hymgorffori yn y taflenni gwaith eu hunain, sy'n atgoffa'r defnyddiwr o'r hyn i'w wneud ar bob taflen.

Hefyd, darperir dolenni isod i rai fideos 'How to' ar sut i ddefnyddio'r model. Darperir y rhain fel ffordd arall o helpu'r defnyddiwr i ddeall sut mae'r MDD yn gweithio mewn arweiniad cam wrth gam.

I gael copi o'r model ar gyfer safle penodol a/neu i drafod materion sy'n ymwneud â'r MDD yn fwy eang, cysylltwch â'r cyngor ar  cdll@abertawe.gov.uk

1. 

2. 

3. 

4. 

5.