Toglo gwelededd dewislen symudol

Chwilwyr Colera, 1832

17 August 1832
D/D WCR S 1/113

Cholera Searchers

Ydych chi'n cofio Jane Phillips, y fydwraig a helpodd gyda genedigaethau 9,000 o blant? Wel, ym 1832, penodwyd Jane, ynghyd â dwy fenyw arall, Elizabeth Jones o Whitewalls ac Anne Thomas o Wassail Street, yn "chwilwyr" ar gyfer tref Abertawe.

Ar 26 Gorffennaf 1832, hwyliodd llong o'r enw Mary Ann i Abertawe gyda'i chargo marwol - dau aelod o'r criw a oedd yn dioddef o golera. Cynhaliwyd cyfarfod o breswylwyr Abertawe yn Neuadd y Ddinas ar 7 Awst i ffurfio Bwrdd Iechyd Lleol. Mae'n debygol bod Elizabeth, Jane ac Anne wedi mynd i'r cyfarfod hwnnw gan wirfoddoli i ymgymryd â rôl y chwilwyr. Roedd chwilwyr yn debyg i'r fersiwn wreiddiol o'n swyddogion Profi ac Olrhain. Roedden nhw'n chwarae rôl bwysig wrth atal ymlediad colera.

Rhoddwyd y gorchmynion canlynol i'r tair menyw eu cyflawni:

1. Eu bod yn gwneud ymchwiliadau i unrhyw farwolaethau a gafwyd o golera, ac ymweld yn syth â'r tai hynny lle bu'r marwolaethau.
2. Eu bod yn archwilio'r dillad gwely a'r dillad sydd am y corff, ac os yw'n ymddangos iddynt fod y perthnasau'n gallu dwyn y gost, ac y dylid dinistrio'r dillad, eu bod yn dweud wrthynt am wneud hynny; ond os yw'r teulu'n dlawd, eu bod yn rhoi gwerth ar y dillad ac yn adrodd wrth Is-gapten Loveless.
3. Eu bod yn mynd ati'n syth i roi Hysbysiad printiedig mewn perthynas ag angladd i deulu'r ymadawedig, a gweld bod y corff yn cael ei roi'n briodol yn yr arch, gyda neu heb y dillad a oedd am y person hwnnw pan fu farw, fel sy'n gyfleus; a bod yr angladd yn cael ei gynnal o fewn pedair awr ar hugain i'r farwolaeth.
4. Os yw'r teulu'n gwrthod cydymffurfio â'u cyfarwyddiadau, yna mae'n rhaid crybwyll hyn yn syth wrth Is-gapten Loveless, a fydd yn rhoi gorchmynion yn unol â hyn.
5. Cyn gynted ag y bydd y corff wedi'i gladdu, eu bod yn gorchymyn bod pob sylwedd niweidiol yn cael ei symud a bod yr ystafell yn cael ei glanhau, ei gwyngalchu a'i mygdarthu; a bod hyn yn cael ei wneud gan y partïon eu hunain os gallant ei fforddio, ond os ydynt yn dlawd, ar draul y Bwrdd.

Gofynnir i breswylwyr yn arbennig i ddweud yn syth wrth i'r un o'r chwilwyr am unrhyw farwolaethau sydd efallai'n digwydd yn eu cymdogaeth.

Yn yr wythnosau a ddilynodd, bu farw 152 o breswylwyr Abertawe o golera. Cychwynnodd colera dair gwaith yn yr ardal ym 1848, 1854 ac 1866. Sgwn i a fu gan Jane rôl arall i'w chwarae?

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024