Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffederasiwn Graddedigion Benywaidd Prydain

Gadewch i ni berffeithio crefft cyfeillgarwch: Cymdeithas Abertawe a'r Cylch o Ffederasiwn Graddedigion Benywaidd Prydain

British Federation of Women Graduates 1

Roedd y flwyddyn 2018 yn nodi 100 mlynedd ers sefydlu mudiad y bleidlais i fenywod, ond pan roedd y teulu Pankhurst yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod, roedd eraill yn gweithio i gael cyfleoedd addysgol cyfartal. Roedd llawer o gefnogwyr ar y pryd yn credu bod addysg uwch yn angenrheidiol i fenywod er mwyn iddynt fod yn wragedd, yn famau ac yn athrawon mwy effeithiol. Ychydig yn unig oedd yn ystyried addysg fel modd o newid bywydau menywod a rhoi'r un cyfleoedd iddynt â dynion. Ond yn fuan daeth unigolion fel Emily Davies, Elizabeth Garrett Anderson a Millicent Fawcett i gredu mai addysg oedd yr allwedd a oedd yn sail i'w hymgyrchoedd eraill.

Ym mis Mehefin 1868, daeth Prifysgol Llundain yn brifysgol gyntaf y byd i dderbyn menywod drwy ganiatáu iddynt sefyll yr Arholiad Cyffredinol. Fodd bynnag, roedd menywod yn derbyn Tystysgrif Hyfedredd ac nid gradd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach yr un brifysgol oedd y sefydliad cyntaf i agor ei raddau (ac eithrio meddygaeth) i'r ddau ryw ar sail gyfartal.

Ni ddyfarnwyd graddau i fenywod yn Rhydychen tan 1920, ac ni ddechreuodd Caergrawnt ddyfarnu graddau i fenywod ar sail gyfartal i ddynion tan 1948, yn rhannol oherwydd pe bai gan fenywod raddau, byddai ganddynt hefyd y breintiau a ddaeth gyda hwy, er enghraifft statws cyfartal, hawliau pleidleisio a chyfran yn llywodraethu'r sefydliad. Agorodd Coleg y Brifysgol, Abertawe ym 1920, gan groesawu 89 o fyfyrwyr, yr oedd wyth ohonynt yn fenywod.

Un sefydliad a sefydlwyd i hyrwyddo cyfleoedd menywod mewn addysg a bywyd cyhoeddus oedd Ffederasiwn Menywod Prifysgolion Prydain (BFUW). Fe'i sefydlwyd ym Manceinion ym 1907 dan yr arwyddair "Gadewch i ni berffeithio crefft cyfeillgarwch". Roedd y datganiad o nodau fel a ganlyn:

  • Hyrwyddo gwaith menywod ar gyrff cyhoeddus
  • Sicrhau bod anableddau rhyw yn cael eu dileu
  • Hwyluso rhyng-gyfathrebu a chydweithredu rhwng menywod prifysgol
  • Rhoi cyfle i fenywod prifysgol fynegi barn unedig ar bynciau sy'n arbennig o ddiddorol i'r grŵp
  • Annog ymchwil annibynnol gan fenywod

Fe'i gelwir bellach yn Ffederasiwn Graddedigion Benywaidd Prydain (BFWG), ac mae'r sefydliad yn parhau i weithio i wella bywydau menywod a merched ar draws y byd.

Yma yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg mae gennym nifer o ddogfennau a adneuwyd gan Gymdeithas Abertawe a'r Cylch o Ffederasiwn Graddedigion Benywaidd Prydain. Mae'r casgliad yn cynnwys cofnodion, gohebiaeth, rhestrau aelodaeth, ffotograffau, toriadau papur newydd a chyfrifon.

Cafodd Cymdeithas Abertawe a'r Cylch o Ffederasiwn Graddedigion Benywaidd Prydain ei chydnabod yn swyddogol ar 10 Chwefror 1968. Erbyn mis Mehefin yr un flwyddyn, roedd Eileen Llewellyn-Jones, Llywydd Cymdeithas Abertawe a'r Cylch, wedi ysgrifennu at Kathleen Johnston, Ysgrifennydd y BFWG yn gwneud cais ffurfiol i gynnal Cynhadledd 1970 yn Abertawe. Erbyn hynny roedd gan y gymdeithas 57 o

aelodau, a gobeithiai ddyblu'r nifer hwn yn y flwyddyn i ddod. Dywedodd Llewellyn-Jones fod 'ein haelodau yn raddedigion o ystod eang o brifysgolion, ac yn dod o amrywiaeth o broffesiynau. Maent hefyd o oedrannau amrywiol, yn amrywio o'r 20au i'r 60au.' Derbyniwyd llythyr derbyn ym mis Gorffennaf ac aeth y gymdeithas ati i gynllunio'r digwyddiad.

Cynhaliwyd y Gynhadledd yn Abertawe ym mis Gorffennaf 1970. Arhosodd y cynrychiolwyr yn Neuaddau Preswyl y Merched a oedd newydd eu cwblhau ar Gampws Singleton. Roedd y prif bynciau trafod yn cynnwys Protocol Genefa yn gwahardd cyfryngau cemegol mewn rhyfel; hawliau dynol i'r henoed; profi cyffuriau newydd a chost addysg feithrin a chynradd. Roedd y Gynhadledd yn llwyddiant ysgubol, gyda rhan o'r casgliad yn cynnwys llythyrau o werthfawrogiad oddi wrth wahanol gynrychiolwyr am y lletygarwch a'r rhaglen ddigwyddiadau wych.

Yn wreiddiol, cynhaliodd y gymdeithas ei chyfarfodydd misol ar Gampws y Brifysgol, ond symudodd yn ddiweddarach i Neuadd y Plwyf Sant Paul, Sgeti. Roedd y pynciau trafod yn amrywio o bynciau diwylliannol, gwyddonol, cymdeithasegol, meddygol a hanesyddol. Roedd gan sawl aelod ddiddordeb mewn cyfeillgarwch rhyngwladol ac ym 1973 fe'u parwyd â grŵp Iseldiraidd o Amersfoot. Cymerodd aelodau eraill ran mewn ymweliadau cyfeillgarwch â Helsinki, Patagonia, Fiji a De Affrica. Yn y 1980au gweithiodd Cymdeithasau Caerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd i gefnogi'r cynllun bwrsariaeth ar gyfer merched ysgol Kenya, a drefnwyd drwy Gymdeithas Merched Prifysgol Kenya.

Ymysg y prosiectau a'r diddordebau eraill roedd cefnogi'r ymgyrch i achub Ysbyty Elizabeth Garrett Anderson ar gyfer Menywod yn Llundain, 1978-1988; cyfarfodydd i drafod Adroddiad Warnock ar Addysg Plant a Phobl Ifanc dan Anfantais, 1978; ymateb i'r Papur Gwyrdd ar Ddyfodol y BBC, 1993; adroddiad ar Ofal Plant yn ardal Abertawe, 1990; ac adroddiad ar broblemau sbwriel ac ailgylchu yn ardal Abertawe, 1990.

Bu'r Aelodau hefyd yn ymwneud â sefydlu Cynulliad Cymru dros Fenywod a Rhwydwaith Ewropeaidd Menywod Cymru. Roedd Cymdeithas Abertawe hefyd yn aelod o Glymblaid Genedlaethol Menywod Cymru dros faterion menywod, yn enwedig o ran iechyd ac addysg.

Penderfynodd Cymdeithas Abertawe wasgaru yn 2017, oherwydd colli aelodau a methiant i recriwtio aelodau iau newydd. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd cyfeillgarwch, gan fynegi'r dymuniad i barhau i gwrdd â'i gilydd yn rheolaidd, yn enwedig gan y byddai 2018 wedi nodi pen-blwydd Cymdeithas Abertawe yn 50 oed. Heddiw mae Cymdeithas Graddedigion Benywaidd Prifysgol Abertawe yn gwneud y gwaith a ddechreuwyd gan Gymdeithas Abertawe a'r Cylch drwy barhau i hyrwyddo menywod mewn addysg uwch i symud ymlaen yn y byd academaidd a chyflawni rolau arwain llwyddiannus.

British Federation of Women Graduates 2

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024