Toglo gwelededd dewislen symudol

Bella Miller o Abertawe

Llun i herio stereoteip

Weithiau rydyn ni'n dod o hyd i lun sy'n adrodd stori'n glir, a dyma un ohonyn nhw. Mae'n dangos Bella Miller, 18 oed a oedd yn arfer byw mewn tŷ bychan lle mae sinema Vue Abertawe heddiw.

Un diwrnod braf tua 1912, daeth Syr Edward Stafford Howard â'i gamera i York Street, Abertawe. Roedd yn ddiwygiwr cymdeithasol a chanddo ddiddordeb yn y Mudiad Gardd-ddinasoedd ac roedd yn gobeithio tynnu llun o'r amodau yn yr aleon bach cyfyng a agorai ar y stryd.

Wrth iddo gerdded i mewn i York Court, mae'n bosib ei fod yn disgwyl golygfa o fudreddi ac esgeulustod. Roedd yn stryd gefn fach mewn man a arferai fod y gerddi y tu ôl i ddau dŷ ar York Street. Roedd chwe thŷ bychan ynddi, ac roedd gan bob un ohonynt lolfa lawr stâr ac ystafell wely sengl lan lofft. Yn gam neu'n gymwys, roedd diwygwyr cymdeithasol yn beio'r aleon hyn a'u hamodau cyfyng am lawer o drafferthion cymdeithas.

Yn lle, roedd y waliau wedi'u gwyngalchu ac roedd yr ale wedi'i hysgubo'n lân. Roedd Bella Miller ar ganol gwneud y golch, ond daeth allan o'i thŷ i weld pwy oedd yno. Daeth ei chwaer fach allanhefyd, gan guddio'i llygaid rhag goleuni'r haul. Siaradodd Bella ychydig â Syr Edward a safodd ar gyfer y llun gydag eitem o ddillad mewn un llaw, a pheg dillad yn y llall, yn hyderus, yn ddifalio a chyda gwên fawr ar ei hwyneb.

Mae llenyddiaeth am dai o'r cyfnod yn llawn sylwadau bychanol cyffredinol am slymiau a'r bobl a oedd yn byw ynddynt, ac ym 1929 cafwyd gwared ar York Court a'r aleon cymdogol oherwydd rhaglen clirio slymiau Abertawe. Mae'r llun hwn yn adrodd stori wahanol, nid am ddioddefwr ond am fenyw ifanc gref, ddoniol a oedd yn helpu i roi trefn ar y tŷ. Gallwn ddarllen rhagor amdani yn y ffurflenni cyfrifiad: roedd ei theulu'n un morwrol ac roedd ei thad yn beilot môr. Yn fuan ar ôl tynnu'r llun hwn, priododd hithau ac yn y pen draw, cafodd saith o blant. Fel nifer o bobl eraill a ddadleolwyd oherwydd y rhaglen clirio slymiau, bu'n byw yn Townhill yn ddiweddarach. Heddiw, saif sinema Vue ar safle'i thŷ bychan.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024