Toglo gwelededd dewislen symudol

Miss Elizabeth Anne Clement o Bont-rhyd-y-fen, 1911-1912

Ganwyd Elizabeth Ann Clement ar 1 Ionawr 1892 yn Nhai-bach. Symudodd ei theulu i dafarn y Miners Arms, Pont-rhyd-y-fen ym 1899, pan gododd ei thad y drwydded. Erbyn 1911, roedd hi'n farforwyn yn y dafarn. Siaradai Gymraeg a Saesneg.

Taith Côr Merched o Ganada ac UDA
(D/D Z 13)

Elizabeth Anne Clement

Ganwyd Elizabeth Ann Clement ar 1 Ionawr 1892 yn Nhai-bach. Symudodd ei theulu i dafarn y Miners Arms, Pont-rhyd-y-fen ym 1899, pan gododd ei thad y drwydded.  Erbyn 1911, roedd hi'n farforwyn yn y dafarn. Siaradai Gymraeg a Saesneg.

Roedd Elizabeth yn aelod o Gôr Merched Brenhinol Cymru(a elwir hefyd yn Gôr Merched Madame Hughes Thomas). Roedd Elizabeth hefyd yn aelod o Gapel y Bedyddwyr Cymraeg Bethel, ac mae'n bosib mai dyma sut y daeth i gysylltiad â'r côr.  Daeth yn aelod rhywbryd rhwng 1909 a 1910.

Sefydlodd Madame Hughes Thomas y côr ym 1905 (roedd Clara Novello Davies wedi sefydlu Côr Merched Brenhinol cyntaf Cymru ym 1883). Côr merched yn unig ydoedd, dan arweiniad arweinydd benywaidd, gyda'r merched yn aml yn perfformio mewn gwisg Gymreig draddodiadol. Mae'n ymddangos bod aelodaeth o'r côr wedi'i gyfyngu gan foddau economaidd. Ni wyddom sut y cododd y menywod hyn arian i deithio dramor am hyd at 6 mis ar y tro, ond nododd un papur newydd fod 20 allan o 22 o aelodau'r côr yn ddisgyblion i Madame Hughes Thomas. Felly, roedd angen y moddau ariannol ar y merched i dalu am wersi cerddoriaeth.

Ysgrifennodd Miss Elizabeth Anne Clement, Pont-rhyd-y-fen, ei dyddiadur rhwng 7 Medi 1911 a 1 Ebrill 1912 pan oedd ar daith drwy Ganada ac America gyda Chôr Merched Madame Hughes Thomas. Mae hefyd yn cynnwys amserlen o daith o Dde Affrica ym 1912. Mae Elizabeth yn cofnodi'r lleoedd y gwnaethant ymweld â nhw, y gwestai y buont yn aros ynddynt a'r lleoliadau y gwnaethant berfformio ynddynt. Dyma ddarnau o'r dyddiadur hwnnw:

9 Medi 1911, "Cefais noson dda o gwsg, cysgais yn yr un gwely â menyw o Montreal (â'i phlentyn) ... teimlais fod y cwch ychydig yn sigledig gan fod y môr yn arw iawn. Ar ôl mynd i'r gwely, teimlais y cwch yn hyrddio'n ofnadwy. Rhedodd Esther a minnau i fyny i weld beth oedd yn bod... roedd dyn yn y trydydd dosbarth wedi cwympo i'r môr... doedd dim modd ei achub".

14 Medi 1911 - Quebec, Dinas Quebec, "Roedd pawb wedi'u cyffroi'n fawr.... y diwrnod wnaethon ni lanio. Rhan ddiddorol oedd mynd i nôl y bagiau, roedd yn rhaid i bopeth gael ei archwilio, roedd yn ddifyr gweld yr holl gistiau ar agor. Yna fe'u taflwyd i lawr llithrfa... roedd gennym ein coets ein hunain ar y CPR (Canadian Pacific Railway)"

27 Medi 1911 - Moose Jaw, Saskatchewan, "Cyrraedd Moose Jaw am 12 o'r gloch... mynd am daith fawr mewn modur, dros y paith ac i'r Gwarchodfeydd Indiaidd, lle'r oedd tri chant o Indiaid".

11 Hydref 1911 - Fernie, Columbia Brydeinig, "Aethom ni drwy le o'r enw'r Cefn Deuddwr Mawr, y rhaniad rhwng Alberta a Columbia Brydeinig. Yma, cwrddon ni â Dick Bowen o Garw, fe yw Pennaeth yr Heddlu. Aeth â ni drwy'r carchar, a dangosodd gell i ni lle'r oedd dyn wedi crogi ei hun un tro".

30 Hydref 1911 - Blaine, Washington (ffin Canada-UDA), "Cawsom brofiad eithaf newydd yn nwylo'r adran dollau... cawsom ein stopio ar ein ffordd o Vancouver yn Blaine ac fe'n gorfodwyd i adael y trên... cawsom ein rhoi yn yr ystafell ddal a gofynnwyd cwestiynau diddiwedd i ni, cyn iddynt ganiatáu i ni barhau â'n taith".

14 Tachwedd 1911, Roseburg, Oregon, "Cynhaliwyd ein cyngerdd mewn neuadd, lle arbennig ar gyfer sain, roedd ein lleisiau'n swnio'n debycach i drigain nag ugain a derbyniodd pob cân encôr drosodd a throsodd".

23 Tachwedd 1911, Sacramento, Califfornia, "Tynnwyd lluniau ohonom mewn gwisg Gymreig ac aethom i Grass Valley... fethon ni'n llwyr â chael te blasus yng Nghaliffornia, mae'n llwyd o ran lliw ac mae ganddo flas rhyfedd iawn".

3 Rhagfyr 1911, San Francisco, Califfornia, "Y bore 'ma aethpwyd â ni ar daith hyfryd o gwmpas Frisco ... roeddem yn gyrru'n araf iawn trwy Barc yGolden Gate am y rhan fwyaf o'r daith... cyrhaeddom lan y Môr Tawel, oedd yn olygfa odidog, roedd y môr yn fendigedig. Ar ein ffordd yn ôl aethom heibio i Chinatown, roedd y bobl i gyd yn cerdded o gwmpas yn eu gwisg genedlaethol oedd yn olygfa fendigedig."

12 Rhagfyr 1911, Los Angeles, Califfornia, "Aeth gŵr bonheddig o'r enw Mr Griffiths, â ni i foduro... gyrron ni drwy barc, lle anferth o'r enw Griffith Park yr oedd wedi ei gyflwyno i'r ddinas. Ar ein ffordd yma, dyma ni'n gweld cwmni' tynnu lluniau ar gyfer darluniau byw... gyda'r nos aethom i Venice mewn car, lle cyflwynom gyngerdd. Sut gallaf ddisgrifio'r lle hwn? Mae ar yr arfordir, ac roedd fel y byddwn i'n dychmygu llun o wlad y tylwyth teg, roedd pob math o ddifyrrwch i'w gael yma... cefais fy synnu wrth gwrdd â Freddie Welsh y paffiwr o Gymru".

2 Ionawr 1912, Malad, Idaho, "Cyfanswm poblogaeth Malad yw dwy fil, ac mae pymtheg cant o'r rhain yn Gymry".

19 Ionawr 1912, Boulder, Colorado, "Tref hardd ac adeiladau gweddus iawn... Perfformiad prynhawn mewn ysgol, y gynulleidfa'n weddol, plant yn bennaf. Canon ni'r anthem genedlaethol ond ni chododd yr un plentyn ar ei draed, yn wahanol i'r plant gartref, pan fydd ein hanthem genedlaethol yn cael ei chanu".

27 Chwefror 1912 Chicago, Illinois, "Hwre, rydym yn mynd i Chicago y prynhawn yma am ychydig oriau. O'r diwedd rydym yn y ddinas fawr, trenau yn symud uwch ein pennau, adeiladau yn dilyn arddull Llundain. Aethom i sawl siop, un siop fawr yn benodol, Marshall Field, sy'n fyd-enwog. Gwelsom rai adeiladau uchel iawn, un â 38 llawr".

6 Mawrth 1912, Indianapolis, Indiana, "Indianapolis heddiw, dinas fendigedig, adeiladau godidog, yn enwedig Swyddfa'r Post... roedd y dref yn ein hatgoffa ryw ychydig o Gaerdydd".

Dychwelodd y côr adref ar 11 Mai 1912. Buont adref am 6 wythnos yn unig cyn gadael am daith o gwmpas De Affrica ar 22 Mehefin 1912. Roedd Elizabeth Clement yn rhan o'r daith honno, ynghyd â'r merched canlynol: Marianne Squires, Ida Owen, Mabel Scott, May Edwards, Megan Harries, Myfanwy Rowlands, Esther Wilkins (16 oed), Annie Jones, Carrie Jones, Flossie Bowen, Susie Phillips, Edith Hooper, Peggie Herbert, Bessie David, Phoebe Griffiths, Alice Lewis, Beatrice Lewis, Cassie Buncombe a May Jones. Buont i ffwrdd am 3 mis arall cyn dychwelyd adref ddiwedd mis Medi 1912.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024