Toglo gwelededd dewislen symudol

Elsie Elvira Mock

D/D Z 397/2

Ganwyd Elsie Butt ar 9 Mehefin 1902. Priododd Elsie â William J E Mock ar 6 Ionawr 1924 yn Eglwys Crist, Abertawe. Ar ôl priodi, bu fyw Elsie Mock yn 21 Burrows Road tan 1958, pan symudodd hi a'i gŵr am i Stryd Rhydychen am gyfnod byr, cyn ymgartrefu yn The Spinney, Parklands.

Rhwng 1938 a 1952, croesawodd Mrs Mock o 21 Burrows Road westeion i'w chartref fel landlord theatraidd. Roedd y rhan fwyaf ohonynt, os nad pob un, yn perfformio yn Theatr Empire, Abertawe. Gadawodd y gwesteion negeseuon i Mrs Mock yn diolch iddi am arhosiad da. Cadwodd ddyddiadur a llyfr ymwelwyr a oedd yn cofnodi hyn. Cedwir copi o'r llyfr yn yr Archifau.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024