Gweithwyr benywaidd yn Fferm y Gnoll
NAS Gn/E 14/2
Mae Archifau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd yn dal cyfrol o gyfrifon Fferm y Gnoll sy'n rhestru datganiadau wythnosol o ddiwrnodau gweithwyr, gan roi enwau, y diwrnodau a weithiwyd, y math o waith, y gyfradd ddyddiol a chyfanswm y cyflog wythnosol. Mae'r gyfrol yn cwmpasu'r cyfnod 1850-1853.
Mae nifer o fenywod ymhlith y rheini a restrir fel gweithwyr fferm: Elizabeth Lewis; Margaret Lewis; Louisa Lewis; Jennett John; Sarah John; Mary Rees; Ann Griffith; Mary Lewis; Margaret Williams; Sarah Thomas.
Roedd y math o waith yn amrywio o dymor i dymor. Ym mis Ebrill 1850, roedd y tasgau'n cynnwys torri cerrig; cario hadau ceirch; gwasgaru gwrtaith; trin cerrig, a rhoi sylw i'r gwartheg (tra bod Evan John wrthi'n brysur yn "rhoi sylw i fenywod".) Ym mis Gorffennaf, roedd y menywod fel arfer yn chwynnu ac yn hofio moron. Erbyn mis Awst, roedd y menywod yn torri ysgall; yn hofio erfin ac yn cywain gwair.
Mae'r gyfrol yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar waith y gweithwyr ar Fferm y Gnoll. Gellir gweld y gyfrol lawn yn Sefydliad y Mecanyddion Castell-nedd.