Toglo gwelededd dewislen symudol

Mary Dillwyn ac Emma Dillwyn Llewelyn, arloeswyr ffotograffiaeth

Mae pawb yn sôn am Fox Talbot a John Dillwyn Llewelyn, ond oeddech chi'n gwybod am y ffotograffwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru?

Photographers

Y dyddiau hyn mae camerâu ym mhobman ond yn y 1840au a'r 50au roedd ffotograffiaeth yn rhywbeth newydd sbon. Roedd Henry Fox Talbot o Lacock yn arloeswr cynnar adnabyddus, a rhannwyd ei angerdd gan aelodau o haenau uchaf cymdeithas yn Abertawe a'r cyffiniau. Mae John Dillwyn Llewelyn o Benllergare yn adnabyddus fel arloeswr a roddodd gynnig ar dechnegau ffotograffig newydd, ond gwnaeth aelodau eraill o'i deulu gymryd rhan hefyd, a chedwir eu lluniau mewn albwm bach hynod ddiddorol oedd yn perthyn i ddisgynyddion Illtyd Thomas o Lanmor. Mae bellach yn cael ei gadw yn y Gwasanaeth Archifau.

Y gyntaf oedd Mary Dillwyn (1816-1906): yr oedd yn chwaer iau i John Dillwyn Llewelyn ac yn ffotograffydd medrus yn ei rhinwedd ei hun. Mae ganddi'r fraint o fod y ffotograffydd benywaidd cyntaf yng Nghymru. Roedd yn well ganddi gamera llai gydag amser amlygiad byrrach ac roedd hyn yn ei galluogi i dynnu lluniau mwy digymell. Mae ei phortreadau yn hynod o naturiol ac yn cyferbynnu â rhai o'r lluniau ffurfiol a dynnwyd gan eraill yn y grŵp. Cynhwysir tri ohonynt yma: maent yn dangos (chwith) Amy Dillwyn gyda'i brawd Harry; (dde) Caroline a Dulcie Eden o'r Bryn, Sgeti; a (gwaelod) Mrs Vivian ac Ernest, Arglwydd Abertawe yn y dyfodol.

Yr ail oedd Emma, a oedd yn wraig i John Dillwyn Llewelyn ac yn gefnder i Henry Fox Talbot. Gwyddom iddi dynnu lluniau, ac er na wnaeth yr un ohonynt eu ffordd i mewn i'n albwm, dyma hi'n sychu llun ar silff ffenestr heulog ym Mhenllergare.

Embed code for the film 'Pioneers of Photography'

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024