Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwisg Genedlaethol Cymru: Menywod yn y Farchnad yn ystod yr 1880au

Wrth roi trefn ar hen gasgliad o sleidiau gwydr fe wnes i ddod o hyd i set o bedwar sleid yn dangos menywod mewn gwisg draddodiadol Gymreig. Mae'r sleidiau gwydr yma yn rhan o Gasgliad WC Rogers (D/D WCR) yng ngofal Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg. Mae'r sleidiau'n mesur 12×16.4cm, ac mae pob un yn cynnwys rhwng 14 a 15 delwedd.

Darganfyddais hefyd y gyfrol wreiddiol ymhlith casgliad gwahanol (D144/1). Mae'r gyfrol yn cynnwys yr un pedair tudalen o ddelweddau o fenywod mewn gwisg draddodiadol Gymreig (mae gweddill y gyfrol yn cynnwys golygfeydd lleol).

Mae'r gyfrol yn nodi James Andrews fel yr artist a'r ffotograffydd. Mae'n debygol cafodd y ffotograffau eu tynnu yn ei stiwdio yn Abertawe a oedd wedi'i leoli gyferbyn â Sefydliad Brenhinol De Cymru rywbryd yn y 1880au, gyda'r bwriad o gynhyrchu cyfres o brintiau a chardiau post ar gyfer y fasnach dwristiaeth. Roedd gwerthu cardiau post o'r fath yma yn ychwanegu at gyffredinoli 'r syniad o wisg Gymreig. Fodd bynnag, mae'r set hon yn dangos y gwahanol wisgoedd yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae'r menywod yn gwisgo pais fflannel streipïog o dan fetgwn ffrynt agored, gyda ffedog, siôl a phenlliain neu gap. Mae arddull y betgwn yn amrywio, gyda rhai tebyg i gotiau rhydd, rhai gyda bodis a sgertiau hir, a rhai byr. Mae rhai yn gwisgo hetiau du tal, eraill yn gwisgo bonet.

Mae'r ddelwedd boblogaidd o wisg genedlaethol Gymreig; fenyw mewn clogyn gwlân coch a het ddu uchel, yn un a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn rhan o adfywiad ymwybodol o ddiwylliant Cymru yn ystod cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad.

Mae'n debygol byddai'r menywod yn y delweddau hyn yn gwerthu eu nwyddau ym Marchnad Abertawe. Mae'r delweddau yn dangos menywod yn cario llaeth, ieir wedi'i dibluo, a mam mewn gwisg Gymreig draddodiadol yn cario ei babi. Efallai bod y rhai a wisgai wisg draddodiadol wrth werthu eu nwyddau yn y farchnad wedi gwneud hynny mewn ymgais i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg, ac i ddangos eu bod yn gwerthu cynnyrch lleol.

O'r 1880au, pan oedd llai o ddefnydd cyffredinol o'r wisg draddodiadol, mabwysiadwyd elfennau dethol ohono fel Gwisg Genedlaethol. O hynny ymlaen, fe'i gwisgwyd gan fenywod mewn digwyddiadau fel ymweliadau Brenhinol, gan gorau, yn yr eglwys a'r capel, ar gyfer ffotograffau, ac yn achlysurol mewn eisteddfodau. Cafodd ei wisgo am y tro cyntaf gan ferched ifanc fel dathliad ar Ddydd Gŵyl Dewi o tua 1910.

Ni fyddwn byth yn gwybod sut y defnyddiwyd y delweddau yma; ai i'w gwerthu fel cardiau post i dwristiaid neu fel dathliad o fenywod o Gymru yn gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol i werthu cynnyrch Cymreig lleol yn y farchnad. Y naill ffordd neu'r llall, Yr wyf yn falch iawn o allu eu rhannu gyda chi. Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024