Toglo gwelededd dewislen symudol

Jane Phillips o Abertawe, bydwraig, 1859

Llyfr y Clochydd, (Silffoedd yr Ystafell Ymchwil) Y Santes Fair, Abertawe

Wrth bori drwy rhai o'r cofnodion cynharach sydd i'w cael yn yr Archifau, des i ar draws enwau tair bydwraig; roedd Mrs Ann Williams yn fydwraig ar Wind Street, Abertawe ym 1758 (P123/23, Llyfr Trethi Cymorth y Tlodion), ac roedd Elizabeth Howell yn fydwraig yn Abertawe ym 1791 (Universal British Directory). Cefais hyd hefyd i gyfeiriad at Mrs Phillips, bydwraig 71 oed a gladdwyd yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe.

Ar ôl ymchwilio ymhellach, dysgais mai Jane oedd enw Mrs Phillips, a bod yr arysgrif ar ei charreg fedd yn dweud:

Er cof am Mrs Jane Phillips o'r dref hon, bydwraig, gwraig i Thomas Phillips, saer maen, a fu farw ar 7 Mehefin, 1859, yn 71 oed. Dros gyfnod o 30 mlynedd, helpodd gyda genedigaethau 9,000 o blant.

Drwy ymchwilio ymhellach, des i o hyd i ysgrif goffa ar gyfer Jane ym mhapur newydd The Cambrian, dyddiedig 10 Mehefin 1859. Mae'n disgrifio Jane Phillips fel "gwraig a oedd yn uchel ei chlod ymysg yr holl ddosbarthiadau...roedd galw mawr am ei gwasanaethau gan wragedd mawr eu parch yn ogystal â'r rheini yn y cylch mwy diymhongar... roedd Mrs Phillips, a fu'n fydwraig am dros 30 mlynedd, wedi cynorthwyo yng ngenedigaethau naw mil o blant - digon i boblogi tref bron dwbl maint Castell-nedd... Yn sicr mae'r fath wraig yn haeddu i'w henw gael ei draddodi i'r oesoedd i ddod fel un a wnaeth gryn gymwynas â'i chyfnod a'i chenhedlaeth."

Rwy'n falch fy mod wedi dod o hyd i enw Jane Phillips, ac yn gallu rhannu'i stori â chenhedlaeth newydd. Ys gwn i faint o breswylwyr Abertawe sy'n ddisgynyddion i blant a anwyd gyda help Mrs Phillips?

Jane Phillips Midwife

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024