Toglo gwelededd dewislen symudol

Mary Courteen o Gastell-nedd, 1726

Daeth Mary i Gastell-nedd rhywbryd tua 1726. Roedd yn fam i Pleydell Courteen, asiant i deulu Mackworth y Gnoll ac mae'n debygol ei bod hi wedi ymgartrefu yng Nghastell-nedd oherwydd ei mab.

RISW Gn 4/1209

Mary Courteen

Daeth Mary i Gastell-nedd rhywbryd tua 1726. Roedd yn fam i Pleydell Courteen, asiant i deulu Mackworth y Gnoll ac mae'n debygol ei bod hi wedi ymgartrefu yng Nghastell-nedd oherwydd ei mab. Cafodd ei bedyddio'n Mary Falkener ar 16 Mai 1682 yn Eglwys San Pedr yn y dwyrain, yn Rhydychen, a phriododd â Samuel Corteen yn yr un eglwys ar 9 Awst 1702.

Mae Casgliadau'r Gnoll yn cynnwys nifer o lythyrau a ysgrifennwyd gan Mary Courteen at ddau o'i meibion. Pleydell a Charles  Mae'n cyfeirio at drydydd mab, James, mewn llythyr at Charles ond nid oes gennym unrhyw ohebiaeth rhwng y ddau.

Y llythyr cynharaf sydd gennym yn ein casgliad a ysgrifennwyd gan Mary Courteen yw un at ei mab Charles sydd wedi'i ddyddio 30 Ionawr 1726/7 (RISW Gn 4/1209), yn fuan ar ôl i Mary symud i Gastell-nedd gyntaf. Yn y llythyr mae'n ymbil arno i fod yn dda:

"Er mwyn Duw, fy mhlentyn bydd dda; bydd yn ddiymhongar, yn ddiwyd ac yn ufudd i'th Feistr. Ofna Dduw. Gweddïa arno'n aml ac osgô bechod.  Triga'n heddychlon gyda phawb, a phaid ag ymhel â'r hyn nad oes a wnelo ef â thi. Dysga adnabod dy hun a bydd gennyt ddigon i'w wneud i ddileu dy feiau dy hun  Daw'r cyngor hwn oddi wrth fam sy'n dy garu'n dyner. Y daw ei hapusrwydd pennaf o radlonrwydd dy frodyr a thithau. Paid ag anghofio hynny, ond rho ef ar waith."

Yn ei llythyr at Pleydell sydd wedi'i ddyddio 23 Chwefror 1726/7 (RISW Gn 4/1089) gwelwn awgrym ynghylch pam y symudodd Mary i Gastell-nedd:

"Rwy'n falch ein bod ni wedi gorffen â'r Coleg a gobeithiaf ymhen amser y gallwn ddod o'n holl drybini."

Gwyddwn o gytundeb priodas rhwng Mary a Samuel fod y teulu'n dod yn wreiddiol o Abingdon a Rhydychen Roedd tad Mary, Richard, yn farbwr ym Mhrifysgol Rhydychen, ac efallai mai dyma'r coleg y cyfeiriwyd ato ganddi. Nid yw'n hysbys beth ddigwyddodd i'r teulu i'w gorfodi i symud i Gastell-nedd, ond mae'n ymddangos bod Mary yn hapus i symud:

"Rwy'n hoffi'r wlad yn fawr ac mae gennyf fy iechyd... rwy'n well yn y wlad hon ac mae gen i fwy o gyfleoedd na'r disgwyl."

Roedd ei mab Pleydell yn sicr yn gofalu amdani a chafodd afael ar dŷ a gardd i Mary o fewn Ystâd y Gnoll yn ystod ei bywyd am rent rhad, pe hawliwyd hynny. (NAS Gn/E 9/4).

Bu farw Mary ym 1963 ac fe'i claddwyd yn Eglwys St Thomas yng Nghastell-nedd, ar 24 Tachwedd 1763.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024