Toglo gwelededd dewislen symudol

Mary Eaton o Abertawe, 1767

Ychydig iawn a wyddom am Mary Eaton, ond heb y ddogfen hon, ni fyddem yn gwybod ei bod hyd yn oed yn bodoli.

Mary Eaton of Swansea 1767

Ychydig iawn a wyddom am Mary Eaton, ond heb y ddogfen hon, ni fyddem yn gwybod ei bod hyd yn oed yn bodoli.  Mae'r ddogfen, dyddiedig 6 Hydref 1767, yn rhestr o dasgau cartref yr oedd Mary i'w cyflawni fel rhan o'i rôl fel morwyn.  Nid oes unrhyw gliwiau ynghylch ble yn Abertawe yr oedd y tŷ, ond ymddengys ei fod yn eiddo sylweddol gyda thri pharlwr, neuadd, seler, pantri, cegin a mwy nag un ystafell wely.  Roedd lôn gefn hefyd.  Mae'r ddogfen hon yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd Mary Eaton a morwynion eraill yn y cyfnod.

Roedd ei dyletswyddau'n cynnwys y canlynol:

  • glanhau'r ddau barlwr a'r neuadd gan gynnwys yr offer haearn a'r llestri pres bob dydd a golchi'r parlwr bach bob nos Sadwrn.
  • glanhau'r seler yn ôl yr angen
  • glanhau'r ystafelloedd gwely bob dydd Bydd morwyn y gogyddes yn helpu i gyweirio'r gwelyau, ond rhaid bod gan y ddwy ohonoch ddwylo a ffedogau glân
  • cynnau'r tanau ym mhob ystafell bob dydd.
  • archwilio'r holl lieiniau ar ddiwedd y dydd a'u hatgyweirio cyn iddynt gael eu hanfon i'w golchi. Bydd y golchwr yn eu dychwelyd bob nos Fercher os ydynt yn sych
  • sgubo'r stryd erbyn machlud haul bob yn ail ddydd Sadwrn
  • peidio â gadael yr allwedd yn nrws y pantri, ond ei gloi a hongian yr allwedd ar fachyn yn y parlwr.
  • mynd i Wasanaeth Dwyfol bob yn ail ddydd Sul, yn y bore ac yn yr hwyr a dychwelyd adref cyn gynted ag y mae'r gwasanaeth yn yr Eglwys wedi gorffen. Ni chaniateir clebran ar ddydd Sul

Bedyddiwyd merch o'r enw Mary Eaton yn Eglwys y Santes Faer, Abertawe ar 4 Rhagfyr 1748 a chafwyd claddedigaeth ar 25 Awst 1832 (roedd Mary yn 84 oed).  Nid oes ffordd o wybod ai'r un Mary yw hon, ond mae'n bosib.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024