Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - monitro parhaus

Er nad oes fframwaith cyfreithiol ar gael i'r ALI fonitro darpariaeth addysg yn y cartref yn rheolaidd, rydym yn ymwybodol o'n dyletswyddau gofal ehangach a byddwn yn cysylltu a rhieni i drafod eu darpariaeth addysg yn y cartref parhaus.

Cynhelir yr ymweliad monitro cyntaf o fewn 12 mis i'r ymweliad cychwynnol. Os oes pryderon am effiethlonrwydd neu addasrwydd yr addysg sy'n cael ei darparu ar gyfer y plentyn, efallai bydd angen cyswllt mwy aml. Os yw pryderon yn gofyn am gyswllt aml, bydd y Tiwtor ADdC yn trafod y pryderon hynny gyda'r rhieni, gyda'r bwriad o helpu i wella eu darpariaeth er budd pennaf y plentyn.

Os ceir addysg yn y cartref, byddwn ni, lle bynnag y bo modd, a heb roi pwysau diangen ar rieni, yn ceisio gweld y ddarpariaeth yn uniongyrchol gan y gallai'r amgylchedd dysgu effeithio'n fawr ar effeithlonrwydd y dysgu.

Nid oes gan yr ALI hawl i fynnu gweld addysg yn y cartref, ac yn yr achosion hynny lle nad yw hyn yn bosibl, gwneir trefniadau eraill er mwyn monitro'r ddarpariaeth. Byddwn yn ceisio cwrdd mewn lleoliad sy'n addas ac yn gyfleus i'r ddwy ochr.

Nid yw'r ALI yn disgwyl i rieni adysgu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, penodi oriau er mwyn addysgu, cael amserlen ffurfiol na dilyn oriau, diwrnodau neu dymhorau ysgol. Mae'r ALI yn parchu hawliau'r rhieni i ddewis y ffordd orau o addysgu eu plentyn a'i alluogi i gyflawni ei botensial. Nid oes yna ffurf benodol ar addysg; mae plant yn dysgu mewn sawl ffordd, ar gyflymder gwahanol a chan amrywiaeth o bobl. Nid oes rhaid i addysg ddilyn patrwm o 'wersi' na hyd yn oed amserlen bob amser. Fodd bynnag, mae'n dda i nodi'ch cynlluniau tymor hir a'r ffyrdd rydych yn bwriadu eu cyflawni.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ebrill 2021