Coffa a chofebion
Mae cofeb yn ffordd barhaol ac unigryw o gofio bywyd anwylyd; gall fod yn ganolbwynt i deulu a ffrindiau ymweld ag ef i fyfyrio ar eu colled a galaru.
Mae gennym amrywiaeth eang o gofebion i chi allu cofio am eich anwylyd. Mae manylion pob cofeb a sut i wneud cais ar gael isod. I gael gwybodaeth am brisiau, gweler ein tudalen Ffioedd claddu ac amlosgi.
Cardiau Coffa a Llyfrau Coffa Bach
Llyfr Coffa yn Amlosgfa Abertawe
Trwy ddewis cael arysgrif yn y Llyfr Coffa, mae'r ymgeisydd nid yn unig yn cael cofeb barhaol ond hefyd yn cofio am eu hanwyliaid mewn ffordd bersonol ac unigryw. Gall cenedlaethau'r dyfodol weld yr arysgrifau sydd yn y tudalennau am flynyddoedd lawer.
Mae pob cyfrol o'r llyfr yn cynnwys cofnodion am dri mis ac yn agored ar y diwrnod cyfatebol; fodd bynnag, os nad yw eich ymweliad ar y dyddiad coffáu a ddewisoch, bydd aelod o staff yn troi'r dudalen i chi os gofynnir am hynny, cyn belled nad yw'r llyfr yn cael ei ddiweddaru gan y caligraffwyr, felly cysylltwch ymlaen llaw.
Sut i wneud cais?
Llenwch y ffurflen gais gyda'r wybodaeth ganlynol:
Y dyddiad y bydd y cofnod yn ymddangos yn y llyfr - mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis dyddiad y farwolaeth ond gall fod yn ddyddiad pen-blwydd neu ddyddiad pwysig arall; mae dewis o naill ai dwy linell / pum llinell / wyth llinell ar gyfer yr arysgrif; gellir ychwanegu arwyddlun neu waith celf arall hefyd.
Mae dyddiadau cau penodol bob chwarter ar gyfer derbyn ceisiadau ac felly mae'n rhaid eu derbyn o fewn yr amserlen er mwyn iddynt ymddangos yn y llyfr ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'r amserlenni fel a ganlyn:
Volume of book that the details will appear in | Details to be submitted by this date |
---|---|
Arysgrifau ar gyfer cyfrol UN - 1 Ionawr tan 31 Mawrth | Cais i'w dderbyn erbyn 31 Hydref fan bellaf |
Arysgrifau ar gyfer cyfrol DAU - 1 Ebrill tan 30 Mehefin | Cais i'w dderbyn erbyn 31 Ionawr fan bellaf |
Arysgrifau ar gyfer cyfrol TRI - 1 Gorffennaf tan 30 Medi | Cais i'w dderbyn erbyn 31 Ebrill fan bellaf |
Arysgrifau ar gyfer cyfrol PEDWAR - 1 Hydref tan 31 Rhagfyr | Cais i'w dderbyn erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf |
Cardiau Coffa / Llyfrau Bach
Yn ogystal â'r arysgrif sy'n ymddangos yn y Llyfr Coffa, gellir hefyd arysgrifio'r cofnod a ddewiswyd mewn Cerdyn Coffa neu Lyfr Coffa Bach. Mae'r copïau personol hyn yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd nad ydynt yn gallu ymweld â'r amlosgfa yn aml i weld y prif lyfr neu efallai gallant fod yn anrheg i aelodau'r teulu sy'n byw i ffwrdd neu dramor.
Sut i wneud cais?
Llenwch y ffurflen gais gyda'r wybodaeth ganlynol:
Y dyddiad y bydd y cofnod yn ymddangos yn y llyfr - mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis dyddiad y farwolaeth ond gall fod yn ddyddiad pen-blwydd neu ddyddiad pwysig arall; mae dewis o naill ai dwy linell / pum llinell / wyth llinell ar gyfer yr arysgrif; gellir ychwanegu arwyddlun neu waith celf arall hefyd.
Hefyd gellir ychwanegu rhagor o arysgrifau at gardiau / llyfrau presennol os oes angen.
Unwaith y bydd y cardiau / llyfrau wedi'u harchebu gall gymryd hyd at 8 wythnos i'w dosbarthu.
Llyfr Coffa Babanod
Mae'r Llyfr Coffa Babanod wedi'i leoli yn y neuadd goffa yn yr amlosgfa.
Mae'r tudalennau'n cael eu troi bob dydd i'r dyddiad cyfatebol; fodd bynnag, os nad yw eich ymweliad ar y dyddiad coffáu a ddewisoch, bydd aelod o staff yn troi'r dudalen i chi os gofynnir am hynny, cyn belled nad yw'r dudalen yn cael ei diweddaru gan y caligraffwyr, felly cysylltwch ymlaen llaw.
Sut i wneud cais?
Llenwch y ffurflen gais gyda'r wybodaeth ganlynol:
Y dyddiad y bydd y cofnod yn ymddangos yn y llyfr; gellir arysgrifio cofnod hyd at bum llinell; gellir ychwanegu arwyddlun neu waith celf arall hefyd.
Mae dyddiadau cau penodol ar gyfer derbyn ceisiadau; gwiriwch amserlenni gyda'n swyddfa.
Placiau Coffa
Cafnau Blodau Coffa yn Amlosgfa Abertawe
Mae placiau coffa (6" x 3") ar gael yn amlosgfa Abertawe i'w gosod ar gafnau blodau coffa, sydd wedi'u gosod ar ddwy ochr yr adeilad h.y. gyferbyn â gardd 3 a 4.
Mae pob plac yn cael ei brynu ar brydles pum mlynedd gyda dewis i ymestyn y brydles ar ddiwedd y cyfnod.
Os nad yw plac yn cael ei adnewyddu, gall y sawl a'i gosododd ei dynnu a'i gadw fel cofrodd ac felly bydd y gofod yn cael ei ddychwelyd a'i ddefnyddio gan deulu arall.
Mae pob plac yn cynnwys arysgrif 5 llinell gyda llythrennau aur.
Gellir gosod blodau wedi'u torri'n fach yn y tyllau tusw wrth droed y gofeb; fodd bynnag ni ellir gosod unrhyw eitemau eraill.
Coeden (Morwydden) Goffa yn amlosgfa Abertawe
Mae'r goeden 'Forwydden' Goffa ger Gardd 1 ar brif rodfa'r amlosgfa. Mae'r boncyff wedi'i wneud o wenithfaen ac mae'r canghennau i gyd o waith metel wedi'u gwneud â llaw a fydd yn hindreulio dros y blynyddoedd i edrych yn fwy garw. Mae 16 cangen ar y goeden, gyda llythrennau yn nhrefn yr wyddor er hwylustod mapio.
Mae'r goeden yn dal 240 o ddail gwenithfaen siâp calon y gellir eu harysgrifio â llythrennau arian gydag enw'r ymadawedig, blwyddyn geni a blwyddyn marwolaeth.
Mae modd rhoi arwyddlun bach ar y ddeilen hefyd, heb unrhyw gost ychwanegol; mae'r arwyddluniau y gellir eu dylunio yn cynnwys meillionen pedair deilen, calon goch, pili-pala, croes, mesen, dwy fuwch goch gota.
Caiff pob deilen ei phrynu ar brydles am gyfnod o bum mlynedd; pan ddaw'r brydles i ben gellir naill ai adnewyddu'r ddeilen am bum mlynedd arall am gost is na'r ffi brynu gychwynnol neu gellir ei chasglu fel cofrodd heb unrhyw gostau pellach i'w talu.
Gellir gosod blodau wedi'u torri'n fach wrth droed y gofeb; bydd unrhyw beth heblaw blodau wedi'u torri'n ffres yn cael eu symud gan staff yr ardd er mwyn cadw'r ardal yn daclus.
Coeden (Helygen) Goffa yn Amlosgfa Abertawe
Mae'r goeden 'Helygen' Goffa ger Gardd 6 ar brif rodfa'r amlosgfa. Mae'r boncyff wedi'i wneud o wenithfaen ac mae'r canghennau i gyd o waith metel wedi'u gwneud â llaw a fydd yn hindreulio dros y blynyddoedd i edrych yn fwy garw. Mae 16 cangen ar y goeden, gyda llythrennau yn nhrefn yr wyddor er hwylustod mapio.
Mae'r goeden yn dal 300 o ddail gwenithfaen y gellir eu harysgrifio â llythrennau arian i gynnwys enw'r ymadawedig, blwyddyn geni a blwyddyn marwolaeth.
Caiff pob deilen ei phrynu ar brydles am gyfnod o bum mlynedd; pan ddaw'r brydles i ben, gellir adnewyddu'r ddeilen am bum mlynedd arall am gost is na'r ffi prynu gychwynnol neu gellir ei chasglu fel cofrodd heb unrhyw gostau pellach i'w talu.
Gellir gosod blodau bach wedi'u torri wrth droed y gofeb; bydd unrhyw beth heblaw blodau wedi'u torri'n ffres yn cael eu tynnu gan staff yr ardd er mwyn cadw'r ardal yn daclus.
Cofeb Iâr Fach yr Haf y Barbican yng Ngardd y Babanod ym mynwent Treforys
Mae cofeb Iâr Fach yr Haf y Barbican yng Ngardd y Babanod newydd ym mynwent Treforys.
Mae'n gofeb wythonglog gydag wyth ochr sy'n cynnwys 14 o blaciau gwag, pob un mewn gwenithfaen o liwiau gwahanol.
Mae pob plac yn mesur 6 "x 4.7" ac mae lle i arysgrif a nodwedd dylunio gloÿnnod byw bach.
Caiff yr holl arysgrifau eu paentio mewn arian ac mae dyluniadau'r gloÿnnod byw ar gael mewn dewis o arian, pinc neu las.
Prynir placiau ar brydles am gyfnod o bum mlynedd; Ar ôl i'r brydles ddod i ben, gellir adnewyddu placiau naill ai am bum mlynedd arall am gost is na'r ffi prynu gychwynnol neu gellir eu casglu fel cofrodd heb unrhyw gostau pellach i'w talu.
Dewis plac
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gwrdd â goruchwylydd y fynwent wrth y gofeb i ystyried pa liw sy'n addas a'r safle ar y gofeb. Unwaith y bydd y penderfyniad wedi'i wneud, bydd y plac a ddewiswyd yn cael ei dynnu a'i farcio i'w anfon at y cyflenwr. Bydd placiau arysgrifedig yn cael eu dychwelyd i'r safle dynodedig ar y gofeb a bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu yn unol â hynny. Rydym yn caniatáu hyd at 8 wythnos ar gyfer dosbarthu ar ôl derbyn taliad.
Cerrig palmant coffa
Mae cerrig palmant coffa ar gael o amgylch gerddi Amlosgfa Abertawe ar gyfer arysgrifau ychwanegol yn unig gan fod yr ardaloedd newydd wedi dod i ben.
I osod arysgrifau enwau pellach ar ymyl palmant presennol, cwblhewch y ffurflen gais berthnasol; gall pob llinell gynnwys uchafswm o 22 nod, gan gynnwys gofodau.
Os oes angen ailbeintio / adleoli / ail-drwsio eich palmant, gwnewch ymholiadau i'r swyddfa gwasanaethau profedigaeth am ragor o wybodaeth.
Plac mainc goffa
Nid ydym yn darparu meinciau coffa newydd yn unrhyw un o'n mynwentydd nac yn yr amlosgfa.
Fodd bynnag, gallwn ddarparu placiau ychwanegol ar gyfer meinciau presennol; am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Gwasanaethau Profedigaeth.
Mae lle ar bob plac ar gyfer arysgrif 5 llinell, gydag uchafswm o 40 nod fesul llinell, gan gynnwys atalnodi a bylchau; nodwch leoliad y fainc, h.y. enw'r fynwent a'r ardal neu rif yr ardd; bydd y testun yn cael ei osod yng nghanol y plac.
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl gynlluniau coffa yn amlosgfa/mynwentydd Abertawe, gan gynnwys ffurflenni cais a chostau, cysylltwch â'rSwyddfa Gwasanaethau Profedigaeth drwy e-bost: bereavementservices@swansea.gov.uk neu drwy ffonio 01792 636481.
Taliadau
Gellir talu ffioedd dros y ffôn, drwy'r post neu wyneb yn wyneb yn y cyfeiriad uchod; rydym yn derbyn taliad drwy Gerdyn Credyd / Debyd; Arian Parod neu Siec (yn daladwy i Gyngor Abertawe).
Dylid cyflwyno ceisiadau coffa wedi'u cwblhau drwy e-bost i bereavementservices@swansea.gov.uk neu wedi'i ddanfon drwy'r post neu wyneb yn wyneb i'r Gwasanaethau Profedigaeth, Ystafell G4.6, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.