Toglo gwelededd dewislen symudol

Natur y ddinas - Dysglau planhigion Llys Glas

Mae'r prosiect peilot hwn yn dargyfeirio dŵr o do'r coleg celf i dair dysgl dal glaw sy'n arafu'r llif trwy amsugno'r dŵr.

Llys Glas rain planter

Drwy ddal dŵr glaw a'i ryddhau'n araf mae'r planhigion yn y dysglau'n  helpu i oeri'r iard ar ddyddiau heulog poeth. Mae'r dysglau'n cael eu plannu gyda rhywogaethau brodorol a rhywogaethau sydd o fudd i fywyd gwyllt trwy greu cynefin a darparu bwyd. Ariennir gan Gronfa Grant a Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a chyllid Cyfoeth Naturiol Cymru. Prosiect partneriaeth rhwng Cyngor Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Urban Foundry.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2024