Natur y ddinas - parc bach dros dro
Parc dros dro wedi'i gynllunio i greu lle i bobl a bywyd gwyllt yng nghanol y ddinas.
Mae'r parc wedi'i gynllunio i ddathlu ecoleg gyfoethog y sir ac mae'n cynnwys cynefinoedd arddulliedig gyda thwyni tywod, clogwyni, gwrychoedd a glaswelltir calchaidd. Cafwyd gafael ar lawer o'r planhigion yn lleol ac mae rhai yn benodol iawn i ficrohinsawdd Abertawe. Mae'r safle presennol yn safle adfywio, felly bwriedir i'r parc bach gael ei adleoli. Ariannwyd y dysglau planhigion gan gronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a'r llochesi bysus gan gyllid Dalgylch Cyfle Bae Abertawe Cyfoeth Naturiol Cymru.