Natur y ddinas - to gwyrdd y Pentref Trefol
To gwyrdd lled-ddwys ar adeilad Pentref Trefol Grŵp Beacon Cymru ar Stryd Fawr Abertawe.
Mae'r to gwyrdd, y bwriedir iddo ddod â chynefin arfordirol i'r ddinas, yn enghraifft dda iawn o greu lle yng nghanol y ddinas i bobl a natur. Mae'r to gwyrdd yn cynnwys rhannau wedi'u plannu a lle awyr agored y gellir ei ddefnyddio ar gyfer egwyliau coffi a chinio yn ogystal â chyfarfodydd awyr agored. Ariannwyd y prosiect gan Grant Seilwaith Gwyrdd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Nid yw swyddfeydd Beacon Cymru yn y Pentref Trefol ar agor i'r cyhoedd.