Natur y ddinas - Coridor gwyrdd Pier Street
Coridor gwyrdd ar hyd Pier Street sy'n creu cysylltedd rhwng mannau gwyrdd yn yr Ardal Forol.
Mae'n cynnwys to gwyrdd, a wal fyw ar yr adeilad a'r dysglau planhigion, cynefin a cherflun pryfed a phwll glaw ar hyd Pier Street. Mae pob un wedi'i ddylunio gyda nodweddion sy'n addas ar gyfer bywyd gwyllt sy'n cynnig lloches gydol y flwyddyn a bwyd i fywyd gwyllt ac i gefnogi peillwyr. Mae'r pwll glaw, a'r dysglau planhigion glaw gorlif yn 'arafu llif' dŵr trwy ddal a defnyddio dŵr glaw o do'r Ganolfan. Ariennir gan grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Mae Canolfan yr Amgylchedd yn agored i'r cyhoedd.