Natur y ddinas - Creu twyni tywod
Er mwyn lleihau faint o dywod sy'n cael ei chwythu gan y gwynt i Oystermouth Road ac i greu system twyni tywod newydd, yn 2016 gosodwyd dros 725m o ffensys castan ar y traeth ger y Ganolfan Ddinesig.
Wrth i dywod gael ei chwythu drwy'r ffens mae'r gwynt yn arafu, mae'r tywod yn syrthio i'r llawr ac mae twyni tywod yn ffurfio. Yna mae moresg a phlanhigion eraill sy'n dwlu ar dwyni'n cytrefu'r twyni (caiff planhigion ychwanegol eu plannu hefyd i'w helpu) ac maent yn sefydlogi'r twyni ac yn dal tywod ychwanegol. Gellir gweld pa mor llwyddiannus y mae'r system twyni newydd hon o weld ei faint. Heb y ffensys byddai'r tywod wedi chwythu ar y ffordd yn lle. Mae wedi bod mor effeithiol fel bod ffensys ychwanegol wedi'u hychwanegu i gynyddu maint y twyni. Prosiect ateb ar sail natur rhwng Cyngor Abertawe (Parciau, Priffyrdd a Chadwraeth Natur) a Chyfoeth Naturiol Cymru.