Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Nodi ADY

Os ydych chi'n poeni bod gan eich plentyn / person ifanc angen neu anhawster dysgu ychwanegol a all fod yn effeithio ar ei ddysgu, mae'n bwysig codi'r pryder hwn gyda'r ysgol / coleg.

Beth os yw fy mhlentyn yn rhy ifanc i fynychu'r ysgol?

Os yw'ch plentyn yn rhy ifanc i fynychu'r ysgol (plant dan 5 oed) caiff ei ystyried fel plentyn yn y blynyddoedd cynnar. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y blynyddoedd cynnar yma.

Beth sy'n digwydd pan fo plentyn / person ifanc neu riant yn codi pryder?

Pan fydd rhiant plentyn / person ifanc yn codi pryder am angen dysgu ychwanegol posib, bydd yr ysgol yn dechrau'r broses benderfynu sy'n dechrau wrth gasglu tystiolaeth ac, o bosib, gyfnod o ymyriad a gaiff ei fonitro a'i adolygu.

Bydd yr ysgol yn gofyn i chi ddod i mewn a chymryd rhan mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i siarad am eich pryderon a gweithio gyda nhw i helpu'ch plentyn / person ifanc.

Os nad yw'ch plentyn / person ifanc yn gwneud cynnydd boddhaol gyda'r ymyriad hwn, yna bydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yn ystyried a yw'ch plentyn / person ifanc yn bodloni'r meini prawf ar gyfer bod ag angen dysgu ychwanegol gan ddefnyddio ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Os oes gan eich plentyn / person ifanc angen dysgu ychwanegol y mae angen darpariaeth ychwanegol ar ei gyfer, yna bydd gan yr ysgol 35 niwrnod gwaith i baratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU) i gefnogi'i ddysgu. Bydd eich barn, eich dymuniadau a'ch teimladau'n cael eu cynnwys mewn unrhyw benderfyniadau.

Beth sy'n digwydd os nad oes gan fy mhlentyn angen dysgu ychwanegol?

Os yw penderfyniad wedi'i wneud nad oes gan eich plentyn / person ifanc angen dysgu ychwanegol, efallai y bydd ganddo anhawster dysgu o hyd. Mewn ysgolion cefnogir anawsterau dysgu drwy amrywiaeth o straegaethau sydd ar gael i bob dysgwr. Gelwir hyn yn Ddarpariaeth Gyffredinol.

Beth sy'n digwydd os ydw i'n anghytuno?

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad yr ysgol, gofynnwch am gael siarad â'r athro dosbarth, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) neu'r pennaeth, er mwyn iddynt allu trafod hyn gyda chi.

Os ydych wedi siarad â'r ysgol, ac os nad yw'r pryder neu'r anghytundeb wedi'i ddatrys gallwch ofyn am gael siarad â Gweithiwr Achos Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gall y Gweithiwr Achos ADY roi cyngor a chefnogaeth ddiduedd i chi. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddatrys eich pryderon yma.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mawrth 2023