Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau arweiniol ar gyfer cynlluniau llawn

Os ydych yn gwneud cais am reoliadau adeiladu dan y weithdrefn cynlluniau llawn, darllenwch y nodiadau arweiniol hyn.

1. Yr ymgeisydd yw'r person y gwneir y gwaith ar ei ran, er enghraifft perchennog yr adeilad.

2. Dylid cwblhau un copi o'r hysbysiad hwn a'i gyflwyno gyda chopïau dyblyg o gynlluniau a manylion yn unol â darpariaethau Rheoliad Adeiladu 14.

2.2 Os bydd Rhan B (Diogelwch Tân) yn gosod gofyniad mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig, dylid adneuo dau gopi arall o gynlluniau sy'n dangos y cydymffurfir â'r gofynion.

3. Heblaw am rai eithriadau, codir ffi i gyflwyno cynlluniau llawn sy'n daladwy gan y person a fydd yn gyfrifol am wneud y gwaith neu y gwneir y gwaith ar ei ran. Mae ffïoedd yn daladwy mewn dau gam. Mae'n rhaid anfon y ffi gyntaf wrth gyflwyno'r cynlluniau. Mae'r ail ffi'n daliad unigol fesul adeilad, i dalu am gostau pob ymweliad safle ac ymgynghoriad a all fod yn angenrheidiol nes cwblhau'r gwaith yn foddhaol.

3.2 Mae'r ffi briodol yn ddibynnol ar y math o waith a gynigir. Amlinellir y graddfeydd ffïoedd a'r dulliau cyfrifo yn y Nodiadau Arweiniol ar gyfer Ffïoedd sydd ar gael ar gais.

4. Yn amodol ar rai o ddarpariaethau penodol Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, mae hawl gan berchnogion a deiliaid mangreoedd i'w ffosydd dŵr brwnt a dŵr wyneb a'u carthffosydd preifat gael eu cysylltu â'r carthffosydd cyhoeddus, lle bônt ar gael. Mae trefniadau arbennig yn berthnasol i ollyngiadau carthffrydau masnachol. Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno i'r fath gysylltiad gael ei wneud roi o leiaf 21 diwrnod o rybudd i'r awdurdod priodol.

5. Mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol i bob mangre ac eithrio: 'Tai annedd i deuluoedd sengl a newidiadau ac estyniadau i'r tai hynny'.

6. Mae'r nodiadau hyn ar gyfer arweiniad cyffredinol yn unig; ceir y manylion am adneuo cynlluniau yn Rheoliad 14 Rheoliadau Adeiladu 2010 ac, o ran ffïoedd, yn Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdod Lleol) 2010.

7. Atgoffir y rheini sydd am wneud gwaith adeiladu neu newid defnydd adeilad yn sylweddol y gall fod angen caniatâd o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref.

8. Ceir rhagor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â'r rheoliadau adeiladu a materion cynllunio gan y cyngor.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ebrill 2023