Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Nodiadau arweiniol ar gyfer gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro

Wrth lenwi hysbysiad o awdurdod dros dro, sicrhewch eich bod yn dilyn yr arweiniad fel eich bod yn llenwi'r ffurflen yn gywir.

Nodyn 1

Bydd rhaid llofnodi'r hysbysiad.

Nodyn 2

Statws hawl i weithio/mewnfudo ar gyfer ymgeiswyr unigol a cheisiadau gan bartneriaethau nad ydynt yn bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig:

Ni all unigolyn neu unigolyn mewn partneriaeth nad yw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fod yn ddeiliad trwydded os:

  • nad oes ganddo'r hawl i fyw ac i weithio yn y DU; neu
  • os yw'n destun amod sy'n ei atal ef/hi rhag cyflawni gwaith sy'n ymwneud â gweithgaredd trwyddedig.

Bydd unrhyw drwydded mangre a gyflwynir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 yn mynd yn ddi-rym os bydd hawl y deiliad i weithio yn y DU yn dod i ben. 

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU ac nad ydynt yn destun amod sy'n eu hatal rhag cyflawni gwaith sy'n ymwneud â gweithgaredd trwyddedig. Maent yn gwneud hyn drwy ddarparu, gyda'r cais hwn, gopïau neu gopïau wedi'u sganio o'r dogfennau canlynol (nid oes rhaid iddynt fod wedi'u hardystio).

Dogfennau sy'n dangos yr hawl i weithio yn y DU

  • Pasbort cyfoes neu sydd wedi dod i ben sy'n dangos bod y deiliad, neu berson a enwir ar y pasbort fel plentyn y deiliad, yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd y DU a'r trefedigaethau sydd â'r hawl i breswylio yn y DU [gweler y nodyn isod am adrannau'r pasbort sy'n berthnasol].
  • Pasbort cyfoes neu sydd wedi dod i ben neu gerdyn hunaniaeth genedlaethol sy'n dangos bod y deiliad, neu berson a enwir ar y pasbort fel plentyn y deiliad, yn ddinesydd gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Swistir.
  • Tystysgrif Cofrestru neu ddogfen yn ardystio preswyliad parhaol a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i ddinesydd gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir.
  • Cerdyn preswylio parhaol a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i aelod teulu dinesydd gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir.
  • Dogfen Mewnfudo Biometrig (Hawlen Preswylio Biometrig) gyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad, sy'n nodi bod gan y person a enwir hawl benagored i aros yn y DU, neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.
  • Pasbort cyfoes sy'n ardystio bod y deiliad wedi'i eithrio rhag rheolaeth fewnfudo, bod hawl benagored ganddo i aros yn y DU, bod yr hawl i breswylio yn y DU ganddo neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.
  • Dogfen Statws Mewnfudo gyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad gydag ardystiad yn nodi bod gan y person a enwir hawl benagored i aros yn y DU neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol sy'n dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif geni neu fabwysiadu lawn a gyflwynwyd yn y DU sy'n cynnwys enw(au) o leiaf un o rieni'r deiliad neu ei rieni mabwysiadol, ar y cyd â dogfen swyddogol sy'n dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif geni neu fabwysiadu a gyflwynwyd yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Iwerddon pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol yn dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif cofrestru neu ddinasyddio fel dinesydd Prydeinig pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol yn dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Pasbort cyfoes sy'n ardystio bod hawl gan y deiliad i aros yn y DU a bod ganddo'r hawl i weithio'n bresennol ac nad yw'n destun amod sy'n gwahardd y deiliad rhag gwneud gwaith mewn perthynas â gweithgaredd trwyddedig.
  • Dogfen Mewnfudo Biometrig (Hawlen Preswylio Biometrig) gyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad, sy'n nodi bod gan y person a enwir hawl benagored i aros yn y DU a bod ganddo hawl i ymgymryd â'r gwaith dan sylw.
  • Cerdyn Preswylio cyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i berson nad yw'n ddinesydd gwlad AEE neu'r Swistir ond sy'n perthyn i ddinesydd o'r fath neu sydd â hawliau deilliadol i breswylio.
  • Dogfen Statws Mewnfudo gyfoes â ffotograff a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad gydag ardystiad yn nodi bod hawl gan y person a enwir i aros yn y DU, a bod ganddo'r hawl i weithio ac nad yw'n destun amod sy'n atal y deiliad rhag gwneud gwaith sy'n ymwneud â gweithgaredd trwyddedig pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol sy'n dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif cais, sy'n llai na 6 mis oed, a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref dan reoliad 17(3) neu 18A (2) Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006, i berson nad yw'n ddinesydd gwlad AEE neu'r Swistir ond sy'n perthyn i ddinesydd o'r fath neu sydd â hawliau deilliadol i breswylio.
  • Tystiolaeth resymol fod gan y person gais sy'n weddill gyda'r Swyddfa Gartref i amrywio ei ganiatâd i fod yn y DU megis llythyr cydnabod gan y Swyddfa Gartref neu dystiolaeth o brawf postio, neu dystiolaeth fod gan y person apêl neu adolygiad gweinyddol ar waith mewn perthynas â phenderfyniad mewnfudo, megis rhif cyfeirnod apêl neu rif cyfeirnod adolygiad gweinyddol.
  • Tystiolaeth resymol fod person, nad yw'n ddinesydd gwlad AEE neu'r Swistir ond sy'n perthyn i ddinesydd o'r fath neu sydd â hawliau deilliadol i breswylio drwy hawliau cytundebol yn y DU gan gynnwys:
    • tystiolaeth o hunaniaeth yr ymgeisydd - megis pasbort,
    • tystiolaeth o'i berthynas â'r aelod teulu o'r AEE - e.e. tystysgrif priodas, tystysgrif partneriaeth sifil neu dystysgrif geni, a
    • thystiolaeth fod gan y dinesydd AEE yr hawl i aros yn y DU yn barhaol neu ei fod yn gwneud un o'r canlynol os yw wedi bod yn y DU am dros 3 mis:
      (i)    gweithio e.e. contract cyflogaeth, slipiau tâl, llythyr oddi wrth y cyflogwr,
      (ii)   hunangyflogedig e.e. contractau, anfonebau neu gyfrifon banc archwiliedig,
      (iii)  astudio e.e. llythyr gan yr ysgol, coleg neu brifysgol a thystiolaeth o gyllid digonol; neu
      (iv)  hunangynhaliol, e.e. cyfriflenni banc.

Bydd angen i aelodau teulu dinasyddion AEE sy'n astudio neu'n ariannol annibynnol ddarparu tystiolaeth fod gan y dinesydd AEE ac unrhyw aelodau'r teulu yswiriant salwch cynhwysfawr yn y DU. Gall hyn gynnwys polisi meddygol preifat, cerdyn EHIC neu ffurflen S1, S2 neu S3.

Ni ddylid anfon dogfennau gwreiddiol i awdurdodau trwyddedu. Os mai pasbort yw'r ddogfen a gopïwyd, copïwch y tudalennau canlynol:

(i)  unrhyw dudalen sy'n cynnwys manylion personol y deiliad gan gynnwys ei genedl;
(ii) unrhyw dudalen sy'n cynnwys ffotograff o'r deiliad;
(iii) unrhyw dudalen sy'n cynnwys llofnod y deiliad;
(iv) unrhyw dudalen sy'n cynnwys y dyddiad dod i ben; ac
(v) unrhyw dudalen sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n nodi bod gan y deiliad yr hawl i ddod i'r DU neu aros yma a bod hawl ganddo i weithio.

Os nad pasbort yw'r ddogfen, dylid copïo'r ddogfen lawn.

Bydd eich hawl i weithio'n cael ei gwirio fel rhan o'ch cais am drwydded a gallwn wirio eich statws mewnfudo gyda'r Swyddfa Gartref. Fel arall gallwn rannu gwybodaeth â'r Swyddfa Gartref. Ni cheir penderfyniadau ar eich cais am drwydded hyd nes eich bod wedi cydymffurfio â'r arweiniad hwn.

Nodyn 3

Gall asiant yr ymgeisydd (er enghraifft, cyfreithiwr) lofnodi'r ffurflen ar ei ran ar yr amod bod ganddo'r awdurdod i wneud hynny.

Nodyn 4

Lle bod mwy nag un ymgeisydd, rhaid i bob ymgeisydd neu eu hasiantiaid unigol lofnodi'r ffurflen gais.

Nodyn 5

Dyma'r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i ohebu â chi ynghylch y cais hwn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ionawr 2022