Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau arweiniol ar gyfer gwneud cais am drwydded i storio ffrwydron (gan gynnwys tân gwyllt)

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o Reoliadau Ffrwydron 2014, ac yn cydymffurfio â nhw. Mae gan yr awdurdod trwyddedu'r gallu i wahardd cadw ffrwydron ar y safle os yw'n credu nad yw'r safle bellach yn addas.

Efallai y byddwn yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn storio'r tân gwyllt a'r ffrwydron yn ddiogel.

Y cyfnodau arferol a ganiateir ar gyfer cyflenwi tân gwyllt yw'r Flwyddyn Newydd, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, 15 Hydref tan 10 Tachwedd a Diwali.

Os ydych yn bwriadu cyflenwi tân gwyllt y tu allani'r cyfnodau arferol a ganiateir, bydd angen i chi hefyd wneud cais ar wahân i'ch awdurdod trwyddedu lleol ar gyfer trwydded er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Tân Gwyllt 2004.

Gwybodaeth gyffredinol ar gwblhau'r cais

1. Ni ddylai'r ffurflen hon gael ei defnyddio ar gyfer gwneud cais am drwydded i storio'r ffrwydron a restrir isod:

  • ffrwydron perthnasol
  • ffrwydron sydd gennych sy'n rheoledig neu wedi'u gwahardd yn sgîl Deddfau Arfau 1968 i 1997
  • powdwr di-fwg neu gapsen daro
  • ffrwydron a gedwir gan berson sydd wedi'i gofrestru fel gwerthwr o dan adran 33 Deddf Arfau 1968.

Os hoffech storio'r ffrwydron a restrir uchod, dylech ddefnyddio'r ffurflen ER2 sydd ar gael ar wefan HSE (Yn agor ffenestr newydd)

Dylech ddefnyddio'r ffurflen hon os ydych am storio dim mwy na 2000kg o ffrwydronyn unig. Os ydych eisiau storio mwy na 2000kg o ffrwydron, dylech wneud cais am drwydded i Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

2. Cysylltwch â Safonau Masnach os oes gennych unrhyw gwestiynau am lenwi'r ffurflen hon neu am eich cais. Os ydych chi'n byw yn y siroedd metropolitan (hynny yw Gorllewin Canolbarth Lloegr, Glannau Merswy, Manceinion Fwyaf, Tyne and Wear, de a gorllewin Swydd Efrog) neu yn Swydd Rydychen, Cernyw neu Norfolk, bydd yn rhaid i chi wneud cais i'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mewn ardaloedd eraill bydd angen i chi gysylltu ag adran Safonau Masnach eich awdurdod lleol fel arfer.

3Sylwer: Efallai y bydd unrhyw euogfarnau blaenorol sydd gennych yn destun Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 ac nid oes yn rhaid i chi gynnwys euogfarnau sydd wedi darfod ar y ffurflen gais hon. Os yw'r cais yn ymwneud â chorff neu gwmni corfforaethol, dylid nodi euogfarnau'r holl gyfarwyddwyr. Os yw'r cais yn berthnasol i'r Alban ac yn ymwneud â phartneriaeth, dylid nodi euogfarnau'r holl bartneriaid.

4. Pellteroedd Gwahanu - gweler Rheoliad 27 Rheoliadau Ffrwydron 2014 (Yn agor ffenestr newydd). Fel arfer, ni fydd rhaid i chi gadw pellter gwahanu os nad ydych yn storio mwy na

  • 250kg HT4
  • 25kg HT3 (neu gyfuniad o HT3 a HT4)
  • 0.1kg HT1
  • 0.1kg HT2

ar un safle. Os nad ydych yn siŵr os yw eich storfa neu'r man lle byddwch yn cynhyrchu neu'n prosesu ffrwydron ar safle'n amodol ar gael pellteroedd gwahanu, cysylltwch â'ch awdurdod trwyddedu.

Dylid cyflwyno'r dogfennau canlynol gyda'r ffurflen gais:

5. Cynllun i raddfa sy'n ddigonol i dangos lleoliad y safle mewn perthynas â'r hyn sydd o'i gwmpas (h.y. enwau neu rifau'r ffyrdd, enwau pentrefi neu nodweddion daearyddol).  Os nad oes gan y safle gyfeiriad post yna bydd angen iddo fod yn raddfa o 1:25000 fel arfer.

6. Os yw'r storfa yn amodol ar gael pellteroedd gwahanu byddwch hefyd angen darparu cynllun safle map ordnans (neu debyg) sy'n dangos lleoliad y storfa a'r pellter o unrhyw adeiladau cyfagos. Dylai'r cynllun hefyd ddangos y mannau lle rydych yn bwriadu prosesu neu gynhyrchu ffrwydron lle nad oes angen trwydded ar gyfer y gweithgareddau hynny o dan reoliad 6 Rheoliadau Ffrwydron 2014 (Yn agor ffenestr newydd). Bydd y raddfa yn ddibynnol ar y pellter gwahanu. Am bellter o hyd at 200 metr, bydd angen graddfa o 1:1250 fel arfer, lle bydd pellter mwy angen 1:2500 neu hyd yn oed 'Cynllun Mwy'. Os yw'r cynllun hwn yn nodi lleoliad y safle yn glir mewn perthynas â'r hyn sydd o'i gwmpas, gall gael ei gyfnewid am y cynllun y cyfeiriwyd ato yn 5 uchod.

7. Os ydych yn bwriadu cadw neu arddangos mwy na 12.5kg o dân gwyllt mewn siop, bydd yr awdurdod trwyddedu yn gofyn i chi gyflwyno cynllun llawr y siop.

8. Os ydych yn bwriadu storio, prosesu neu gynhyrchu ffrwydron mewn adeilad sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill bydd angen cynnwys cynllun llawr sy'n dangos y mannau o fewn yr adeilad lle rydych yn bwriadu storio, prosesu neu gynhyrchu'r ffrwydron.

9. Bydd angen cynnwys y ffi gyda'ch cais. 

Math y perygl a swm

10. Bydd yr awdurdod trwyddedu angen gwybod math y perygl a hefyd y swm o ffrwydron rydych yn dymuno ei storio er mwyn penderfynu a yw eich storfa'n addas. Bydd y swm a gewch storio yn ddibynnol ar berygl y ffrwydron. Cysylltwch â'ch cyflenwr os nad ydych yn siŵr am berygl y ffrwydron rydych yn dymuno eu storio.

11. Mae'r "swm" yn cyfeirio at  'grynswth net' y ffrwydron. Mae hyn yn golygu pwysau'r ffrwydron sydd wedi'u cynnwys mewn eitem h.y llai o ddeunydd pacio, casinau etc.

Cyfnod dilysrwydd

12. Gall trwydded i storio tân gwyllt a ffrwydron eraill lle nad oes angen tystysgrif ffrwydron, fod yn ddilys am gyfnod o hyd at 5 mlynedd, yn ddibynnol ar benderfyniad yr awdurdod trwyddedu.