1320 - Oes Teulu De Mowbray
Pan fu farw unig fab William, penderfynodd wneud ei ferch hynaf Alina, a'i gŵr John de Mowbray, yn etifeddion Arglwyddiaeth Gŵyr.
Pan ddienyddwyd ei gŵr, cafodd Alina a'i mab John eu carcharu yn Nhŵr Llundain. Er i'w thad farw yn 1326 bu'n rhaid iddi aros nes bu farw'r Brenin Edward II y flwyddyn wedyn i sicrhau ei hetifeddiaeth. Bu'n rheoli Penrhyn Gŵyr hyd nes y bu farw yn 1331, pan ddaeth ei mab John yn Arglwydd Gŵyr. Mae'n debyg mai ef oedd yn gyfrifol am ychwanegu'r goron ar ben y castell, y rhodfa ben mur gyda'i rhes o fwâu, oddeutu'r amser yma. Roedd Arglwyddi Gŵyr o deulu De Mowbray yn berchenogion absennol yn bennaf. Roedd yn well ganddynt fyw ar eu hystadau yn Lloegr. Roedd stiwardiaid yn gofalu am eu busnes yn Abertawe ac aethant ati i adeiladu adeilad newydd o fewn beili'r castell o'r enw Place House.