Mewn perygl o golli'ch cartref
Os ydych yn poeni am fod yn ddigartref neu rydych ar fin colli'ch cartref, cysylltwch â'n tîm Opsiynau Tai cyn gynted â phosib fel y gallwn geisio eich helpu i'ch cadw yn eich llety presennol neu ddod o hyd i rywle newydd i chi.
Cysylltu ag Opsiynau Tai ar-lein nawr Cysylltu ag Opsiynau Tai ar-lein
Ffyrdd eraill o gysylltu ag Opsiynau Tai Opsiynau Tai
Os ydych mewn perygl o ddod yn ddigartref, cysylltwch ag Opsiynau Tai a byddwn yn cymryd manylion cychwynnol gennych ac yna'n trefnu i chi gysylltu â gweithiwr achos digartrefedd a fydd yn cynnal asesiad gyda chi. Os ydynt yn fodlon eich bod mewn perygl o fod yn ddigartref a'ch bod yn gymwys i gael cymorth, byddwn yn ceisio'ch atal rhag dod yn ddigartref drwy:
- eich helpu i aros yn eich cartref presennol
- eich helpu i oedi cyn gorfod gadael eich llety presennol
- eich helpu i ddod o hyd i lety arall
Fel rhan o'ch asesiad byddwn yn ceisio cysylltu â phobl sy'n berthnasol i'ch cais e.e. y rheini sy'n gofyn i chi adael, i'n helpu i ganfod beth yw eich hawliau cyfreithiol a nodi unrhyw opsiynau posib i'ch atal rhag dod yn ddigartref.
- Cymorth os ydych yn berchennog tŷ
- Cymorth os ydych yn rhentu'n breifat
- Help i'r Lluoedd Arfog
- Digartref ar ôl gadael yr ysbyty
- Cymorth i bobl sy'n gadael y carchar
- Cymorth os yw cam-drin domestig yn effeithio arnoch
- Cymorth i bobl ifanc
- Ein dyletswydd gyfreithiol ar eich cyfer chi
Cymorth os ydych yn berchennog tŷ
Os ydych yn poeni am fethu â fforddio'ch morgais, mae'n bwysig iawn cael cyngor cyn gynted ag y byddwch yn mynd i drafferthion. Dylech gysylltu â'ch benthyciwr yn gyntaf a gall drafod eich opsiynau gyda chi. Mae cymorth a chefnogaeth hefyd ar gael gan nifer o asiantaethau: Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled
Mae help hefyd ar gael gan:
- Ein Huned Cefnogi Tenantiaid - sy'n gallu eich cefnogi gyda materion sy'n ymwneud â thai a helpu i geisio'r cyngor mwyaf priodol i gynnal eich cartref
- Shelter Cymru - sy'n darparu cyngor tai arbenigol annibynnol am ddim
Os ydych mewn perygl o ddod yn ddigartref, bydd Opsiynau Tai yn ceisio eich atal rhag dod yn ddigartref ac efallai y gallant eich helpu os byddwch yn colli'ch cartref.
Cymorth os ydych yn rhentu'n breifat
Os ydych yn rhentu'ch cartref gan landlord preifat, efallai y byddwch mewn perygl o fod yn ddigartref os:
- yw eich landlord wedi cyflwyno rhybudd i chi adael eich eiddo
- rydych yn ei chael hi'n anodd talu eich rhent
- mae eich eiddo mewn cyflwr gwael
Help sydd ar gael gan Opsiynau Tai:
- Bydd Gweithiwr Achos Digartrefedd yn gweithio gyda chi i geisio'ch cadw yn eich cartref
- Gweithio gyda chi i wneud y mwyaf o'ch incwm
- Eich cynghori ar eich hawliau cyfreithiol
- Cyfryngu gyda'ch landlord
- Os na allwch aros yn eich cartref presennol mwyach, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i un newydd
Os oes angen help arnoch, cysylltwch ag Opsiynau Tai cyn gynted â phosib.
Gall tîm Mynediad at Gymorth y Sector Rhentu Preifat y Wallich hefyd ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i bobl sy'n defnyddio llety rhent preifat: Y Wallich
Help i'r Lluoedd Arfog
Yng Nghymru, os byddwch yn ddigartref wrth adael y Lluoedd Arfog, bydd gennych angen blaenoriaethol am dai sy'n golygu bod yn rhaid i ni sicrhau eich bod yn cael cynnig llety dros dro addas, os oes angen, hyd nes y daw ein dyletswydd i'ch helpu i ben.
Os oes angen help arnoch neu os ydych yn credu y byddwch yn ddigartref ar ôl i chi adael y Lluoedd Arfog, cysylltwch ag Opsiynau Tai cyn gynted â phosib.
Os ydych chi'n gyn-filwr sydd wedi dod yn ddigartref am unrhyw reswm, cysylltwch ag Opsiynau Tai a rhowch wybod i'r tîm am eich sefyllfa gan y bydd eich cyfnod o wasanaeth yn cael ei ystyried.
Mae gennym Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog sy'n dwyn ynghyd y cymorth a'r cyngor a ddarperir i aelodau cymuned y Lluoedd Arfog: Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae cymorth ychwanegol ar gael gan:
- Llwybr tai cenedlaethol ar gyfer Lluoedd arfog a chyn-filwyr (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
- Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd
- Veterans Gateway
- Change Step Cymru
- Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Digartref ar ôl gadael yr ysbyty
Os ydych mewn perygl o ddigartrefedd pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o'r ysbyty, rhowch wybod i staff nyrsio'r ysbyty cyn gynted â phosib. Byddant yn cysylltu ag Opsiynau Tai i chi fel y gallwn asesu eich sefyllfa a gweld sut y gallwn eich helpu.
Wrth i ni weithio gyda chi i ddod o hyd i ateb tai tymor hir ar gyfer pan fyddwch yn dod allan o'r ysbyty, efallai y byddwn yn cynnig llety dros dro i chi.
Os oes gennych gartref yn barod ond mae angen ei addasu, gall yr ysbyty eich cyfeirio at ein Tîm Grantiau Tai yn: Grantiau a benthyciadau ar gyfer gwneud addasiadau i'r cartref
Cymorth i bobl sy'n gadael y carchar
Os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o'r carchar, bydd y Tîm Ailsefydlu yn y carchar yn eich helpu i edrych ar eich opsiynau ar gyfer tai. Os ydych yn mynd i gael eich rhyddhau heb gyfeiriad sefydlog byddant yn eich helpu i gyflwyno cais digartrefedd i Opsiynau Tai.
Os ydych wedi gadael y carchar ac rydych yn ddigartref, dylech gysylltu ag Opsiynau Tai am gymorth a chyngor.
Bydd y Swyddog Ailsefydlu Cyn-droseddwyr yn y tîm Opsiynau Tai yn gweithio gyda chi, Swyddog Ailsefydlu eich carchar a'r Gwasanaeth Prawf i'ch helpu i ddod o hyd i lety. Mae'n bosib y bydd gennym ddyletswydd i roi llety dros dro i chi pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o'r carchar.
Os ydych yn mynd i'r carchar neu yn y carchar ar hyn o bryd, mae'n bwysig datrys problemau tai i'ch helpu i gadw'ch eiddo os yw'n bosib a helpu i osgoi problemau pan fyddwch yn cael eich rhyddhau. Pan fyddwch yn y carchar gallwch gael cyngor ar dai gan y tîm ailsefydlu yn y carchar a gwasanaeth fel Prison Link Cymru.
Cymorth ychwanegol:
Prosiect Ymyriad Cyfnod Allweddol Crisis - Mae Ymyriad Cyfnod Allweddol ( CTI) yn darparu cymorth un i un yn ystod y cyfnod pontio allweddol o ymgysylltu cyn gadael y carchar i fyw'n ôl yn y gymuned. Mae'r prosiect yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw asiantaeth.
Cymorth os yw cam-drin domestig yn effeithio arnoch
Os ydych chi'n dioddef neu'n ofni cam-drin domestig, yna gall Opsiynau Tai eich helpu. Gall y tîm roi cyngor tai i chi, eich cynorthwyo i wneud cais digartrefedd a'ch helpu i'ch cyfeirio at gymorth arbenigol. Gallant eich helpu i ddod o hyd i rywle diogel i aros yn ogystal â'ch helpu i gynllunio ar gyfer y tymor hir. Gall unrhyw un brofi cam-drin domestig, ac mae'n bwysig cofio nid eich bai chi ydyw ac nid chi yw'r unig un - mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Gall enghreifftiau o ymddygiad camdriniol gynnwys:
- trais corfforol
- bygythiadau llafar a bychanu
- cam-drin seicolegol ac emosiynol fel ynysu oddi wrth anwyliaid neu sarhad
- trais rhywiol fel treisio
- rheoli ariannol fel dal arian yn ôl
Ffoniwch yr heddlu ar 999 os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn wynebu risg difrifol neu ar fin wynebu risg difrifol i'w diogelwch personol neu os oes angen gadael y cartref ar unwaith.
Os ydych yn denant i Gyngor Abertawe: Help ar gyfer tenantiaid sy'n dioddef o gam-drin domestig
Sgwrsfot Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun
Cymorth i bobl ifanc
Mae Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid BAYS+ yn cefnogi pobl ifanc 16-21 oed sy'n ddigartref ac sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gyda chyngor cyffredinol, tai, gwahaniaethu a budd-daliadau: Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid BAYS+
Ein dyletswydd gyfreithiol ar eich cyfer chi
Er bod y gyfraith yn datgan bod yn rhaid i ni eich cynghori os ydych yn debygol o ddod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, rydym am helpu cyn gynted â phosib felly cysylltwch â'r tîm Opsiynau Tai cyn gynted â phosib.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu y byddwn yn gwneud ymholiadau am eich sefyllfa o ran tai os ydych mewn perygl o golli'ch cartref. Os ydych yn gymwys efallai y gallwn eich atal rhag dod yn ddigartref - ein dyletswydd gyfreithiol.
Efallai na fyddwch yn gymwys i gael cymorth, er enghraifft, oherwydd eich statws mewnfudo. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch ag Opsiynau Tai a bydd y staff yn esbonio'r sefyllfa i chi.
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth, byddwn yn rhoi cyngor i chi am sefydliadau eraill a all helpu neu ffyrdd eraill o ddod o hyd i lety addas gan na fyddwn yn gallu darparu llety i chi.