Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe - papur ymgynghori ar gyfer disgyblion

Rydym yn ymgynghori ar ddyfodol darpariaeth ysgolion arbennig yn Abertawe.

Beth mae'r cyngor eisiau ei wneud?
Pam mae'r cyngor am wneud hyn?
Beth mae'r cynnig hwn yn ei olygu?
Oeddech chi'n gwybod?
Os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, a fyddaf yn symud i adeilad newydd yr ysgol?
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Sut gall y disgyblion ddweud beth yw eu barn am y syniad?

 

Beth mae'r cyngor eisiau ei wneud?

  • Ym mis Medi 2025 (2 flynedd o nawr) mae'r cyngor am wneud Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas yn un ysgol fawr, fel y gallant rannu athrawon a syniadau. Fodd bynnag, bydd y plant yn parhau i fynd i'w hadeiladau ysgol arferol.
  • Yng ngwanwyn 2028, (5 mlynedd o nawr) mae'r cyngor am agor ysgol arbennig newydd sbon, fwy mewn lle newydd yn agos at Ysgol Pen-y-Bryn. Bydd hyn yn golygu y bydd plant yn mynd i adeilad newydd yr ysgol yn hytrach na ble maen nhw'n mynd nawr.

Pam mae'r cyngor am wneud hyn?

  • Bydd gan adeilad ysgol newydd gyfleusterau gwell i'ch helpu i ddysgu a mwy o le yn yr awyr agored.
  • Drwy wneud y ddwy ysgol yn un ysgol cyn i'r adeilad newydd fod yn barod, bydd yn golygu y gall yr athrawon helpu ei gilydd a dod yn un tîm cyn iddynt symud i adeilad newydd yr ysgol.
  • Oherwydd bod angen lle ar lawer o blant mewn ysgol arbennig yn Abertawe, bydd cael ysgol newydd, fwy o faint, yn golygu y gall y plant hyn fynd i'r ysgol yn Abertawe yn hytrach na gorfod mynd i rywle arall.

Beth mae'r cynnig hwn yn ei olygu?

  • Yn 2025 bydd Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn yn dod yn un ysgol ond yn parhau i ddefnyddio'r un adeiladau a ddefnyddir ar hyn o bryd felly ni fydd llawer yn newid i ddisgbylion.
  • Mae'n debygol y bydd gennych yr un athrawon a staff eraill yn gweithio gyda chi.
  • Bydd plant yn cael eu cludo i adeiladau eu hysgol arferol fel y maen nhw'n ei wneud nawr.
  • Yn 2028 bydd yr ysgol yn symud o'r hen adeiladau i adeilad newydd yr ysgol yn Heol Mynydd Garnllwyd (yn agos at leoliad presennol Ysgol Pen-y-Bryn nawr).
  • Bydd yr ysgol newydd yn gallu rhoi lle i 100 o ddisgyblion ychwanegol gan ei gwneud yn ddigon mawr i 350 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed.
  • Bydd yn rhaid i ddisgyblion deithio i adeilad newydd yr ysgol. Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi cymorth i ddisgyblion gyda chludiant os bydd angen.

 

Oeddech chi'n gwybod?
Mae CCUHP (Confesiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) yn gytundeb byd-eang sy'n dweud bod gan bob plentyn a pherson ifanc hawliau. Mae Erthygl 12 o CCUHP yn dweud bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i leisio eu barn a bod pobl yn gwrando arnynt mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywyd. Rydym yn credu y dylai hyn gynnwys penderfyniadau am eich ysgol.

Os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, a fyddaf yn symud i adeilad newydd yr ysgol?

Edrychwch ar y tabl isod i gael gwybod. Hyd yn oed os nad effeithir arnoch chi, cyddai gennym ddiddordeb o hyd yn eich barn. Efallai fod gennych ffrind neu aelod o'r teulu y bydd hyn yn effeithio arnynt.

Edrychwch ar y tabl isod i gael gwybod
Ym mha flwyddyn ydych chi ar hyn o bryd?Ym mha flwyddyn y byddwch chi pan gaiff yr ysgol newydd ei hadeiladu?A yw hyn yn golygu y byddaf yn symud?
MeithrinBlwyddyn 4Ydy
DerbyniadBlwyddyn 5Ydy
Blwyddyn 1Blwyddyn 6Ydy
Blwyddyn 2Blwyddyn 7Ydy
Blwyddyn 3Blwyddyn 8Ydy
Blwyddyn 4Blwyddyn 9Ydy
Blwyddyn 5Blwyddyn 10Ydy
Blwyddyn 6Blwyddyn 11Ydy
Blwyddyn 7Blwyddyn 12 neu efallai y yddwch wedi gadael yr ysgolEfallai
Blwyddyn 8Blwyddyn 13 neu efallai y byddwch wedi gadael yr ysgolEfallai
Blwyddyn 9Blwyddyn 14 neu efallai y byddwch wedi gadael yr ysgolEfallai
Blwyddyn 10Yn debygol o fod wedi gadael yr ysgolNac ydy
Blwyddyn 11Yn debygol o fod wedi gadael yr ysgolNac ydy
Blwyddyn 12Yn debygol o fod wedi gadael yr ysgolNac ydy
Blwyddyn 13Yn debygol o fod wedi gadael yr ysgolNac ydy
Blwyddyn 14Yn debygol o fod wedi gadael yr ysgolNac ydy

Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • Bydd Cynghorwyr yn cyfarfod ym mis Ionawr 2024 i ddysgu beth ddywedodd pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori. Yna byddant yn penderfynu a ddylid mynd i gam nesaf y cynnig.
  • Os byddant yn penerfynu bwrw ymlaen, gelwir y cam nesaf yn gyfnod 'Rhybudd Statudol'. Anfonir hysbysiad at eich rhieni / gofalwyr a pohbl eraill sydd â diddordeb yn yr ysgol. Bydd yr hysbysiad yn egluro beth yw'r bwriad a beth a all pobl ei wneud os nad ydynt am i'r cynnig fynd yn ei flaen.
  • Bydd Cynghorwyr yn cyfarfod eto ar ôl hynny i siard am yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud am yr hysbysiad a phenderfynu beth i'w wneud nesaf.

Sut gall y disgyblion ddweud beth yw eu barn am y syniad?

Gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein yma: 

Gallwch ysgrifennu at y cyngor erbyn 24 Tachwedd i ddweud wrthym beth yw eich barn.
Ysgrifennwch at: Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg, Y Ganolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.

neu'r e-bost schoolorganisation@abertawe.gov.uk

Bydd eich athrawon yn siarad â chi i ddarganfod beth yw eich barn a gallant helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhoi adborth i'r cyngor.

 

Close Dewis iaith