Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio a Theithio Ffordd Fabian

Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar yr A483, tua milltir i'r dwyrain o Ganol y Ddinas.

Cynnig presennol
Talwch £1 yn unig i barcio drwy'r dydd yn ein safleoedd parcio a theithio - a hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr!

O Gyffordd 42 yr M4 (Dwyrain Abertawe), dilynwch arwyddion 'Abertawe' am ryw bedair milltir. Mae Ffordd Fabian yn daith 10 munud yn unig o'r M4. Mae safle Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus ar gyfer mynd i Abertawe o Gastell-nedd, Blaenau'r Cymoedd, Pen-y-bont a Chaerdydd. 

Lleoliad

Parcio a Theithio Ffordd Fabian, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8LD.

Amserlen (gwasanaeth 51)

Mae'r bysus yn rhedeg bob 20 munud yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn - fel arfer gyda bysus modern unllawr hygyrch, â llawr isel.

Cynhelir y gwasanaeth hwn gan First Cymru - am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion isod.

O Safle Parcio a Theithio Fabian Way i Orsaf Fysus Abertawe
Ffordd FabianGorsaf Fysus Abertawe
7.00am7.12am
7.20am (7.25am ar ddydd Sadwrn)7.32am (7.37am ar ddydd Sadwrn)
7.40am (dim ar ddydd Sadwrn)7.52am (dim ar ddydd Sadwrn)
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
00
20
40
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
12
32
52
Tan 6.40pmTan 6.52pm
O Orsaf Fysus Abertawe i Safle Parcio a Theithio Fabian Way
Gorsaf Fysus AbertaweFfordd Fabian
7.25am (dim ar ddydd Sadwrn)7.37am (dim ar ddydd Sadwrn)
7.45am7.57am
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
05
25
45
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
17
37
57
Tan 6.45pmTan 6.57pm

Nid yw'r gwasanaeth yn gweithredu ar ddydd Sul nac ar wyliau banc cydnabyddedig (ac eithrio Dydd Gwener y Groglith).

Safleoedd bysus

  • Ffordd Fabian (Porth SA1)
  • Ffordd Fabian (St Thomas) 
  • Parêd y Cei (Sainsburys)
  • Gorsaf Fysus Abertawe

Nodweddion

  • Mae'r maes parcio ar agor rhwng 6.45am a 7.30pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn
  • 529 o lefydd parcio gan gynnwys 22 o gulfannau i'r anabl; a rheseli beiciau
  • CCTV
  • Ardal aros amgaeedig gyda seddi, man gwybodaeth a pheiriannau lluniaeth
  • Toiledau, gan gynnwys toiledau'r anabl a chyfleusterau newid babanod
  • Mannau gwefru cerbydau trydan
  • Mae parcio i goetsis ar gael yn y maes parcio gorlif

Gwasanaeth bws wedi'i gynnal gan

First Cymru, Heol Gwyrosydd, Pen-lan, Abertawe, SA5 7BN.
Ffôn: 01792 572255 (8.00am to 6.00pm)
Ebost: cymru.customerservices@firstgroup.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Ionawr 2025