Parcio a Theithio Sioe Awyr Cymru
Bydd dau safle Parcio a Theithio pwrpasol yn gweithredu yn ystod y penwythnos ar gyfer ymwelwyr â Sioe Awyr Cymru'n unig.
Bydd dau safle Parcio a Theithio pwrpasol yn gweithredu yn ystod y penwythnos ar gyfer ymwelwyr â Sioe Awyr Cymru'n unig
Sylwer - gall traffig ar benwythnosau Sioe Awyr Cymru fod yn brysur iawn, a bydd yn cymryd amser i'r bysus Parcio a Theithio deithio rhwng y safle a'r digwyddiad. Dylech ystyried hyn wrth wneud eich cynlluniau teithio.
Sylwer - mae eich tocyn parcio yn caniatáu i un cerbyd (car/fan fach) gyda hyd at 5 person barcio rhwng 8.30am ac 8pm ar 5 Gorffennaf 2025 neu 6 Gorffennaf 2025 at ddiben mynd i Sioe Awyr Cymru. Ni chaniateir parcio dros nos. Ni chaniateir cartrefi modur. Mae amodau a thelerau llawn ar gael yma, ac anfonir e-bost â gwybodaeth gyfeiriol atoch bythefnos cyn y digwyddiad a fydd yn eich arwain i ddilyn yr arwyddion cyfeiriol â system côd lliw. Ni chaniateir ailfynediad.
Stiwdios y Bae, Fabian Way
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o faes parcio Stiwdios y Bae ar Fabian Way (Cyffordd 42 yr M4) wrth gyrraedd Abertawe, gan ollwng a chodi pobl wrth y Ganolfan Ddinesig.
Gyda llwybr cyflym, bydd yr amser teithio o safle parcio a theithio Stiwdios y Bae i'r digwyddiad yn llai, ond caniatewch ddigon o amser i barcio'ch car a dal y bws er mwyn sicrhau nad ydych chi'n colli'r hwyl.
- Cost fesul cerbyd: £12.50*
- Côd Post: SA1 8PZ
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
- Bydd bysus yn gwasanaethu rhwng 8.30am ac 8.00pm
- Cadw lle parcio yma