Parcio sioe awyr Cymru
Gellir archebu lle parcio ar-lein tan 5pm ddydd Gwener 4 Gorffennaf ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a than 5pm ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf ar gyfer dydd Sul 6 Gorffennaf. Ar ôl hynny gellir talu wrth y gât ar y diwrnod.
Gweler y map isod er mwyn eich helpu i gynllunio'ch taith a sgroliwch lawr i archebu lle parcio. Er mwyn gweld fersiwn fwy o'r map, cliciwch ar y llun yn y gornel dde uchaf.
Noddir maes parcio'r Rec, maes parcio Paxton Street a maes parcio Parcio a Theithio Stiwdios y Bae gan Abertawe'n Gweithio.
Sylwer: Mae eich tocyn parcio yn caniatáu i 1 cerbyd (car/fan fach/beic modur) barcio rhwng 8am ac 8pm ar 5 neu 6 Gorffennaf 2025 at ddiben mynd i Sioe Awyr Cymru. Ni chaniateir parcio dros nos. Ni chaniateir cartrefi modur. Mae amodau a thelerau llawn ar gael yma, ac anfonir e-bost â gwybodaeth gyfeiriol atoch bythefnos cyn y digwyddiad a fydd yn eich arwain i ddilyn yr arwyddion cyfeiriol â system côd lliw. Ni chaniateir ailfynediad.
Mae holl feysydd parcio'r digwyddiad yn hygyrch, ac mae lleoedd hygyrch dynodedig ar gael ym mhob un o feysydd parcio dynodedig y digwyddiad ond gwiriwch hyn gan fod arwyneb pob maes parcio'n amrywio (e.e. mae rhai ohonynt ar wair, etc.).
Gellir archebu lle parcio ar-lein tan 5pm ddydd Gwener 4 Gorffennaf ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a than 5pm ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf ar gyfer dydd Sul 6 Gorffennaf. Ar ôl hynny gellir talu wrth y gât ar y diwrnod.
Haen 1
Y Rec (Glas)
- Cost fesul cerbyd: £20*
- Côd Post: SA2 0AT
- Arwyneb y maes parcio: Graean a gwair
- Ar agor o 8am
- Cadw lle parcio yma
Canolfan Ddinesig Abertawe - Dwyrain (Du)
- Cost fesul cerbyd: £20*
- Côd Post: SA1 3SN
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
- Cadw lle parcio yma
Rotwnda Neuadd y Ddinas (Coch)
- Cost fesul cerbyd: £20*
- Côd Post: SA1 4PE
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
- Cadw lle parcio yma
Haen 2
Paxton Street (Gwyn)
- Cost fesul cerbyd: £15*
- Côd Post: SA1 3SA
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
- Cadw lle parcio yma
Haen 3
Caeau Chwarae Brenin Siôr V (Porffor)
- Cost fesul cerbyd: £10*
- Côd Post: SA2 9AU
- Arwyneb y maes parcio: Gwair
- Ar agor o 8am
- Cadw lle parcio yma
*Yn ogystal â ffi archebu o 5% fesul pryniad
Talu ar y diwrnod meysydd parcio
Gallwch dalu i barcio ar ddiwrnod y digwyddiad yn nifer o'n meysydd parcio;
Ysbyty Singleton (Melyn)
- Cost fesul cerbyd: £10
- Côd Post: SA2 8QG
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
Prifysgol Abertawe (Gwyrdd)
- Cost fesul cerbyd: £20
- Côd Post: SA2 8PP
- Arwyneb y maes parcio: Tarmac
- Ar agor o 8am
Bydd meysydd parcio eraill ar gael yng nghanol y ddinas nad ydynt yn ymwneud â'r digwyddiad. Mae gwybodaeth am y rhain ar gael ar-lein yma.