Sesiynau a Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd
Mae Chwaraeon ac Iechyd yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.


O feiciau cydbwysedd a sesiynau dros dro i droeon iechyd yn y gymuned, yn ogystal â T'ai Chi, cerdded Nordig a ffitrwydd llai heriol, mae amrywiaeth o sesiynau sy'n addas i bawb. Mae'r gweithgareddau a nodir ar yr amserlen fel arfer yn awr o hyd ac yn cael eu harwain gan arweinwyr sesiwn cefnogol, cyfeillgar a hyfforddedig a gwirfoddolwyr o'r gymuned leol.
Sesiynau ar hyn o bryd
Cymerwch gip ar y rhestr lawn o weithgareddau ac archebwch le drwy ticketsource: www.ticketsource.co.uk/swanseasportandhealth
Gall pob sesiwn newid.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: sportandhealth@abertawe.gov.uk
Y newyddion diweddaraf
Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am sesiynau a digwyddiadau sydd ar ddod Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd).