Gŵyr - rheolaeth drwy bartneriaeth
Mae'r Tîm AoHNE yn gweithio mewn partneriaeth agos â phawb sy'n byw ac yn gweithio ym mhenrhyn Gŵyr ac yn rheoli'r tir, ynghyd â'r rhai sy'n gyfrifol am gadw a gwella'r dirwedd a'r bywyd gwyllt i'r genedl.
Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr
Mae Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr yn darparu cyngor i'r Cyngor er mwyn llywio'n gwaith.
Mae'r Grŵp Cynghori'n agored i bawb sydd â diddordeb ym mhenrhyn Gŵyr. Penodir aelodau gan Gynghorwyr etholedig am gyfnod o bum mlynedd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb ym mhenrhyn Gŵyr.
Mae manylion dyddiadau a chofnodion yma:
Gweld cyfarfodydd a phapurau llawn
Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr
Mae cynllun rheoli 5 mlynedd statudol yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer yr AoHNE - gan ddisgrifio ein dyheadau am y dyfodol a'r gwaith y bydd angen ei wneud.
Mae Cynllun Rheoli 2017 isod yn nodi ein cynlluniau presennol. Bydd adolygiad y Cynllun Rheoli'n dechrau yn 2024 a bydd ymgynghoriad llawn o'r cynllun drafft yn rhoi cyfle i'r rhai sydd â diddordeb ym mhenrhyn Gŵyr helpu i lunio ei ddyfodol.