Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru

Mae nifer digynsail o bobl wedi dod yn agored i niwed yn ariannol yn sydyn, naill ai trwy golli eu swyddi neu gael problemau llif arian. Mae hyn yn arwain at bryderon ynghylch talu'r biliau pwysicaf fel rhent, cyfleustodau ac angenrheidiau sylfaenol.

Os ydych yn y sefyllfa yma, gall ymddangos yn demtasiwn i fenthyg arian gan fenthyciwr didrwydded fel ateb cyflym.

Bydd benthycwyr arian didrwydded yn manteisio ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed ar hyn o bryd ac sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw unman arall i droi am help. Maent yn aml wedi'u lleoli yn eich cymuned ac, os ydych mewn argyfwng ariannol, gallant ymddangos yn gyfeillgar ar y dechrau. Fodd bynnag, maent yn achosi trallod aruthrol yn y tymor hir.

 

Bydd ein llinell gymorth gyfrinachol 24 awr yn aros ar agor trwy gydol yr argyfwng. Os ydych chi, neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod wedi benthyg arian gan benthycwr arian didrwydded, ffoniwch ni ar 0300 123 33 11 am gyngor a chefnogaeth.

Os ydych chi'n cael trafferthion ariannol, y peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud yw benthyg gan benthycwr arian didrwydded.

Mae opsiynau llawer mwy diogel ar gael, waeth pa mor ddrwg yw'ch sefyllfa.

Enw
Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru
Gwe
http://www.gov.uk/report-loan-shark