
Cyngor ar ddyledion
Cefnogaeth a chyngor am ddim ar reoli dyled i bobl y mae ganddynt bryderon ynghylch arian neu ddyled.
Rydym wedi ymuno â sefydliadau ar draws y sir i gynnig cyngor effeithiol am ddim ar fynd i'r afael â dyled ac mae ar gael ar flaen eich bysedd. Mae'r Botwm Panig DyledYn agor mewn ffenest newydd ar-lein newydd yn llawn gwybodaeth am ddim am sut i ddygymod â dyled ac osgoi trafferth drwy ddefnyddio canllaw cam wrth gam sy'n hawdd ei ddilyn.
Nod y Botwm Panig Dyled yw helpu pobl i ddianc rhag poen dyled ac arbed trigolion rhag cwympo i fagl cyngor drud neu fenthyciadau cyfuno dyledion sy'n gallu cynyddu pwysau ariannol. Mae cymorth gyda dyled am ddim.
Mae'r Botwm Panig Dyled wedi'i lunio i:
- roi cyngor syml am ddim i chi os oes gennych bryderon ynghylch arian neu ddyled
- rhoi argymhellion da i chi am gredyd fforddiadwy
- eich cyfeirio chi i sefydliadau ac adnoddau sy'n gallu rhoi help da i chi am ddyled
- diwallu eich anghenion, boed eich dyled yn 'weddol' neu hyd yn oed os ydych mewn 'argyfwng llwyr'
Gall trigolion lleol fynd ar-lein i ddefnyddio'r Botwm Panig Dyled mewn unrhyw lyfrgell yn Abertawe, lle gellir defnyddio cyfrifiaduron am ddim.