Ann o Abertawe (Ann Julia Hatton, Kemble gynt)
I gofio am y bardd a nofelydd lleol, a fu'n rheoli Baddondy Abertawe
Cafodd Ann Hatton (1764-1838) ei chynnig am un o blaciau glas Abertawe am y rhesymau canlynol:
- Roedd hi'n awdures doreithiog o gerddi a thros ddwsin o nofelau poblogaidd gan ddefnyddio'r ffugenw 'Ann of Swansea'.
- Mae'n cynrychioli'r cyfnod cynddiwydiannol yn hanes Abertawe pan oedd yn gyrchfan glan môr boblogaidd - 'Brighton Cymru'.
- Gyda'i gŵr, prydlesodd a rhedodd y Baddondy - gwesty a chyfleuster hamdden ar gyfer y ffasiwn newydd o ymdrochi yn y môr - a safai ar safle presennol y Ganolfan Ddinesig.
Roedd Ann Julia Hatton, Kemble gynt, yn ferch i deulu theatraidd Kemble ac yn chwaer i'r actores enwog Sarah Siddons. A hithau'n ddioddefwr priodas ddwywreigiog, roedd ei bywyd cynnar yn Llundain yn lliwgar ac weithiau'n dramgwyddus. Ar ôl ei hail briodas gyfreithiol i William Hatton, bu'r pâr yn byw yn Efrog Newydd cyn ymagrtrefu yn Abertawe i redeg y Baddondy rhwng 1799 a 1806.
A hithau bob amser yn ddyfeisgar, bu'n rhedeg ysgol ddawns yng Nghydweli am gyfnod byr ar ôl marwolaeth ei gŵr cyn dychwelyd i Abertawe am weddill ei bywyd. Yma, bu'n cynnal ei hun fel awdur gan ddefnyddio'r ffugenw 'Ann of Swansea', gan lunio 15 nofel ramantus a gothig a oedd yn boblogaidd iawn, yn ogystal â llawer o gerddi a darnau byr eraill. Bu farw Ann yn 74 oed ym 1838 ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Ioan, San Mathew erbyn hyn, ar y Stryd Fawr. Mae dau lun o Ann yn bodoli, un yn Oriel Gelf Glynn Vivian a'r llall yn Amgueddfa Abertawe.