Toglo gwelededd dewislen symudol

Cae'r Vetch

Hen gartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Vetch Field blue plaque
Lleoliad - wedi'i osod ar biler hen borth William Street a oedd yn arwain at deras Banc y Gogledd, y teras cartref, lle'r oedd cefnogwyr Abertawe'n dod at ei gilydd.

Cae'r Vetch oedd safle stadiwm wreiddiol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe rhwng 1912 a 2005. Roedd siâp rhyfedd y cae yn golygu bod awyrgylch unigryw yno. Cafodd ei enwi ar ôl cnwd Ffacbysen y tir âr a gafodd ei dyfu yno yn y gorffennol. Roedd y Vetch eisoes y cael ei defnyddio ar gyfer chwaraeon a digwyddiadau cyn 7 Medi 1912, lle cynhaliwyd gêm gynghrair broffesiynol gyntaf Clwb Pêl-droed Tref Abertawe yn erbyn Caerdydd, lle cafwyd sgôr terfynol o 1-1. Dros y 93 o flynyddoedd nesaf, cafodd nifer o gemau anhygoel eu chwarae ar y cae. Bu'r cyfnod mwyaf nodedig rhwng 1978 a 1981 lle llwyddodd yr Elyrch i ddringo o'r Bedwaredd Adran i frig y gynghrair gyfan dan reolaeth John Toshack.  

Chwaraewyd y gêm gynghrair olaf yn y Vetch ar 30 Ebrill 2005 lle enillodd Abertawe yn erbyn Shrewsbury Town gyda sgôr o 1-0 gan ennill dyrchafiad i'r Adran Gyntaf. Chwaraewyd y gêm olaf erioed ar 11 Mai 2005 lle enillodd yr Elyrch 2-1 yn erbyn Wrecsam, gan ennill Cwpan Cenedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru cyn i'r tîm symud i'w stadiwm bresennol.

Roedd Cymru hefyd wedi chwarae 18 gêm ryngwladol yn y Vetch a chafwyd cyngherddau gan The Who a Stevie Wonder, pencampwriaeth paffio a gemau rygbi'r gynghrair.

Mae rhai o'r chwaraewyr enwog sydd wedi chwarae neu weithio yn y cae yn cynnwys Trevor Ford, Cliff Jones, John Charles, Terry Medwin, Ivor Allchurch, Robbie James, John Toshack, Tommy Smith, Leighton James, Alan Curtis, Leon Britton, Roberto Martinez a Lee Trundle.

Heddiw mae'r Vetch yn barc poblogaidd sy'n cynnwys cae pêl-droed 5 bob ochr, maes chwarae a rhandiroedd. Mae safle canol hen gae'r Vetch wedi'i farcio o hyd gan fod lludw cefnogwyr wedi'u gwasgaru yno.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mehefin 2024