Plac glas i Ceri Richards
Artist
Lleoliad y Plac: Wal flaen y tŷ
Ceri Geraldus Richards (1903 - 1971)
Ganed Ceri Richard yn Nynfant i deulu dosbarth gweithiol hynod ddiwylliedig. Aeth i Ysgol Ganolradd Tregŵyr lle byddai'n tynnu lluniau drwy'r amser ac enillodd gystadlaethau celf lleol. Pan oedd yn 18 oed, cofrestrodd yng Ngholeg Celf Abertawe ac ym 1923 treuliodd amser yn Neuadd Gregynog yn edrych ar waith yr Argraffiadwyr Ffrengig, Rodin a darluniau'r hen feistri yn ogystal â rhai modern. Cadarnhaodd y profiad hwn ei ddyheadau i fod yn artist ac ym 1924 cyflwynodd gais llwyddiannus am ysgoloriaeth i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.
Mae llawer o baentiadau Ceri Richards yng nghasgliad Tate Britain ac yn Oriel Gelf Glynn Vivian yma yn Abertawe. Gwnaeth ddehongliadau diddorol dros ben o gerdd Dylan Thomas, 'The force that through the green fuse (1933)'. Yng nghanol y 1940au, daeth cerddoriaeth yn thema yn ei waith sydd ddim yn syndod o ystyried y cafodd ei fagu mewn cartref lle dysgwyd yr holl blant i ganu'r piano ac ymgyfarwyddo â gwaith Bach a Handel. Treuliodd Richards y rhan fwyaf o'i amser yn Llundain ar ôl 1924 a bu farw yno ym 1971.
Fe'i hystyrir yn eang fel artist modern gorau Cymru'r 20fed ganrif.
SYLWER: Mae'r plac ar eiddo preifat ond gellir ei weld yn eglur o'r llwybr troed cyhoeddus. Peidiwch â thresmasu ar eiddo preifat. A wnewch chi barchu preifatrwydd y preswylwyr wrth ymweld â'r plac hwn.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: 10 Fairwood Road
- What 3 Words: wishes.stiff.lost
- Llwybrau byssus agosaf: Arosfannau bysiau Found Out Inn, Spar, ac Heol Brython. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.