Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas chwiorydd Ace

Wedi'i gynnig gan Archif Menywod Cymru

Ace Sisters blue plaque
Lleoliad y plac glas: ger Pier y Mwmbwls, yr arcêd ddifyrrwch a rhai grisiau'n arwain i lawr i draeth sy'n edrych allan i Oleudy'r Mwmbwls.

'Menywod Pen y Mwmbwls' - chwiorydd, Jessie Ace g. 1860 - ? a Margaret Wright (Ace gynt) 1854 - 1933 

Roedd y ddwy chwaer yn ferched i geidwad Goleudy'r Mwmbwls, Abraham Ace. Roedd y ddwy'n fenywod ifanc 'cyffredin' ond 'eithriadol'  ac, ym 1883, peryglon nhw eu bywydau'n arwrol, wrth geisio achub aelodau criw Bad Achub y Mwmbwls, Wolverhampton. Roedd y bad achub wedi mynd allan yn gynnar ar fore 'Storm Fawr' dydd Sadwrn 27 Ionawr 1883, i gynorthwyo'r bad 885 tunnell, Admiral Prinz Adalbert o Danzig, yr Almaen, pan wyrodd i ynys allanol Pen y Mwmbwls a dryllio o dan y goleudy. 

Yn dilyn hynny, daeth y menywod i gael eu hadnabod a'u hedmygu ledled y byd pan ymddangosodd sgetsh ar dudalen flaen papur newydd darluniadol wythnosol Prydeinig parchus a dylanwadol, The Graphic, ddydd Sadwrn 24 Chwefror 1883.

Daeth eu dewrder yn ysbrydoliaeth ar gyfer y gerdd epig, er nad oedd yn fanwl gywir, 'The Women of Mumbles Head' gan feirniad theatr dylanwadol y Daily Telegraph, Clement Scott (1841-1904). Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r bardd Maura Dooley wedi ysgrifennu ei cherdd brydferth ei hun sy'n dwyn yr un teitl. Cafodd y gerdd wreiddiol ei hadrodd gan genedlaethau o blant yn y Mwmbwls, Abertawe ac ymhellach. 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn cynnal cyfres o saith sleid 'Llusern Hudol' o ailberfformiad ffotograffig o weithredoedd y chwiorydd Ace, a ddefnyddiwyd i 'gyd-fynd' ag adroddiadau cyhoeddus o'r gerdd.

Cafodd Carl Smith, aelod criw Bad Achub y Mwmbwls ar un adeg sydd bellach yn awdur ac yn hanesydd morol yn Surrey, ei 'fagu' ar y gerdd epig honno, wedi'i throsglwyddo gan ei dad a oedd yn adrodd straeon ac oherwydd y ffaith y bu ei fam-gu gyda'r pentrefwyr, yn gwylio'r drasiedi'n datblygu. Mae wedi ymchwilio'r 'Cambrian' yn llwyr a'r 'Cambria Daily Leader', papurau newydd Abertawe, ym 1883, yn edrych ar bob ongl o'r drasiedi hon ac mae ei lyfr, "The Men of Mumbles Head' (Gwasg Gomer 1977) yn rhoi'r cyfrif manylaf o'r hyn a ddigwyddodd. Mae'n cynnwys y datganiad gan Lywiwr Jenkins, y diwrnod ar ôl y digwyddiad:
 

"Aeth dwy ferch Mr Ace i lle gwelais i'r dynion yn y dŵr. Dywedwyd wrthyf ei bod yn debyg bod ofn ar Mr Ace y byddai ei ferched yn boddi. Bloeddiodd Maggie, 'Bydda i'n marw cyn gadael i'r dynion hynny farw' a chlymodd hi a'i chwaer ddwy siôl at ei gilydd a'u taflu i'r dŵr. Trwy wneud hyn, achubon nhw ddau ddyn, William Rosser a John Thomas".  Tystiodd Rosser yr "Haliodd merched Mr Ace fi lan". Mae'n cyfeirio at filwr (Gynnwr Hutchings) a'r chwiorydd yn taflu rhaff ato."

Cadarnhaodd Carl Smith, "Doedd adroddiadau'r RNLI ddim yn sôn am weithredoedd y menywod".

"Cafodd y Llywiwr fedal arian gan yr RNLI a £50. Cafodd Gynnwr Hutchings ei ddiolch ar felwm. Ni chafodd gweithredoedd y ddwy fenyw eu cydnabod gan yr RNLI, ond cafodd y ddwy froets aur gan Ymerodres yr Almaen am ofalu am griw'r bad".

Mae'r ddwy fenyw hyn wedi hen haeddu mwy o gydnabyddiaeth na'r cyfeiriad atyn nhw mewn cerdd anhysbys. Gobeithio y bydd y plac glas hwn yn gwneud rhywfaint i unioni'r diffyg cydnabyddiaeth am eu hymdrechion dewr ar fore 27 Ionawr, 1883.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023