Plac glas Daniel James
Awdur y geiriau i'r emyn Calon Lân
Cyhoeddwyd Calon Lân ym 1892, ysgrifennwyd y geiriau gan Daniel James yn y 1890au a rhoddwyd y geiriau ar gân gan John Hughes, yr oedd y ddau ohonynt yn byw yn Abertawe. Mae'n adnabyddus bellach fel un o anthemau rygbi Cymru, ac yn fwy diweddar fe'i mabwysiadwyd fel anthem gan gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru.
Bu Daniel James, a anwyd ym 1848, yn gweithio yng ngwaith haearn Treforys ac yng ngwaith tunplat Glandŵr.
Gosodwyd yr ail blac glas ar hen Gapel Mynydd-bach, sef Canolfan Calon Lân bellach, i goffáu James sydd wedi ei gladdu yn y fynwent gerllaw.