Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas i Emily Phipps

I gofio am Brifathrawes ysgol uwchradd i ferched, Ffeminydd ac ymgyrchydd ysbrydoledig.

Emily Phipps blue plaque unveiling

Lleoliad y plac: Roedd Ysgol Uwchradd i Ferched Trinity Place ar gornel Trinity Place a Richards Place. Mae'r safle hwn bellach yn gartref i Ganolfan y Berllan.

Ganwyd Emily Frost Phipps yn Devonport ym 1865. Cafodd ei hyfforddi fel athrawes gan ennill radd dosbarth cyntaf o Brifysgol Llundain. Ym 1895, cafodd ei phenodi'n Brifathrawes Ysgol Uwchradd i Ferched Canol Abertawe yn Trinity Place, a'i thrawsnewid yn ysgol uwchradd ardderchog. Cafodd ei disgrifio fel un o'r gorau yng Nghymru oherwydd ei dylanwad. Ysbrydolodd genhedlaeth o athrawon gan annog ei disgyblion i fod yn annibynnol a chyflawni.

Roedd Emily Phipps yn ymgyrchydd brwd ac ymroddedig dros y bleidlais i fenywod. Sefydlodd cangen Abertawe o Gynghrair Rhyddid y Merched, drwy beidio â chymryd rhan yng nghyfrifiad 1911 i brotestio yn erbyn gwrthodiad y llywodraeth ryddfrydol i roi'r bleidlais i fenywod. Roedd hi'n aelod blaengar o Ffederasiwn Cenedlaethol Athrawesau, carfan bwyso o fewn yr NUT a fu'n ymgyrchu dros gyflog cyfartal i athrawesau a chyfle cyfartal i addysg merched.

Hefyd wrth addysgu, astudiodd Emily Phipps i fod yn fargyfreithiwr. Ym 1925, fe'i gelwid i'r bar, gan adael Abertawe i ddilyn gyrfa gyfreithiol yn Llundain lle parhaodd i ymgyrchu i wella addysg a statws i fenywod. Bu farw ym 1943. Mewn ysgrif goffa iddi nodwyd y frawddeg ganlynol, 'Nid oedd unrhyw beth na allai wneud pe bai'n troi ei sylw ato.'


How to get there:

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2024