Plac glas i Jessie Donaldson
I gofio am ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth, gweithredydd ac athrawes.
Lleoliad y Plac: Wal adeilad Dinefwr, PCDDS.
Brwydrodd Jessie Donaldson o Abertawe yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth yn America tua 170 o flynyddoedd yn ôl. Teithiodd Jessie i Ohio yn y 1850au i gynnal tŷ diogel, ac roedd mewn perygl o dderbyn dirwyon a dedfrydau carchar am gynnig llety a diogelwch i gaethweision wrth iddynt geisio dianc o daleithiau'r de i ogledd America.
Cyflwynwyd yr enwebiad plac glas i'r cyngor gan yr hanesydd diwylliannol o Abertawe, yr Athro Jen Wilson, sylfaenydd Treftadaeth Jazz Cymru sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas y ddinas fel rhan o PCDDS.
Meddai'r Athro Wilson, sydd wedi ymchwilio i fywyd Jessie dros nifer o flynyddoedd, "Gadawodd Jessie Donaldson Abertawe yn 57 oed i gychwyn ar fywyd rhyfeddol o wleidyddiaeth ryngwladol ar raddfa fawr. Ei thŷ ar lannau afon Ohio oedd y trydydd tŷ diogel dan arweiniad pobl o Gymru i gaethweision a oedd wedi rhedeg i ffwrdd. Ffrindiau Jessie yn y mudiad gwrth-gaethwasiaeth oedd Frederick Douglass, caethwas wedi'i ryddhau, y caethweision ffoëdig Ellen a William Craft, yr ymgyrchydd brwd, William Lloyd Garrison, a Harriet Beecher Stowe, awdur Uncle Tom's Cabin. Drwy gydol Rhyfel Cartref America bu Jessie'n gweithio ochr yn ochr â'i ffrindiau, gan alluogi ffoaduriaid o'r planhigfeydd ar draws yr afon i geisio rhyddid. Dychwelodd Jessie gartref i Abertawe ym 1866."
Dadorchuddiwyd y plac glas yn y ddinas lle'i magwyd ar 19 Mehefin - y dathliad hynaf sy'n hysbys o ddiwedd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: Dynevor Centre, Dynevor Pl, Swansea SA1 3ET
- What 3 Words: mugs.larger.armed
- Llwybrau byssus agosaf: Arosfannau bysiau The Kingsway ac Swansea Central Police Station. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.
- Meysydd parcio agosaf y Cyngor: Cilfachau talu ac arddangos ar y stryd De-La Beche Street ac Cilfachau talu ac arddangos ar y stryd Craddock Street.