Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas i John Hughes

Cyfansoddwr yr emyn Calon Lân

John Hughes blue plaque

Lleoliad y plac: Capel y Bedyddwyr Cymraeg Caersalem Newydd, Treboeth

Cyhoeddwyd Calon Lân ym 1892, ysgrifennwyd y geiriau gan Daniel James yn y 1890au a rhoddwyd y geiriau ar gân gan John Hughes, yr oedd y ddau ohonynt yn byw yn Abertawe. Mae'n adnabyddus bellach fel un o anthemau rygbi Cymru, ac yn fwy diweddar fe'i mabwysiadwyd fel anthem gan gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru.

Ganwyd John Hughes 150 mlynedd yn ôl ym 1872, a gweithiodd ar hyd ei yrfa i waith dur Dyffryn yn Nhreforys, gan ddechrau fel bachgen swyddfa cyn cael ei ddyrchafu i fod yn rheolwr marchnata. Bu'n teithio'n rhyngwladol gyda'i waith, gan ddysgu chwe iaith i'w hun ar ben ei iaith frodorol, Cymraeg.

Bu Hughes, a fu farw o waedlif yr ymennydd ym 1914, hefyd yn gwasanaethu fel organydd yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg Caersalem Newydd.

Mae'r plac glas wedi'i osod ar Gapel y Bedyddwyr Cymraeg Caersalem Newydd, Treboeth, i goffáu ei gysylltiad â Hughes, sydd wedi'i gladdu yn y fynwent yno.


Sut i gyrraedd yno:

  • Cyfeiriad: Capel Caersalem Newydd Baptist, 894 Heol Llangyfelach, Tirdeunaw, Tre-boeth, Abertawe SA5 9AU
  • What 3 Words: upon.tested.invite
  • Llwybrau byssus agosaf:  Safle bws Caersalem Cross. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2024