Plac glas i Kingsley Amis
I anrhydeddu'r nofelydd clodwiw
Lleoliad y plac: 24 Y Gelli, Uplands
Faint o bobl sy'n sylweddoli bod awdur Prydeinig pwysig arall â chysylltiad ag Abertawe? Ganwyd Kingsley Amis (1922-95) yn Llundain a chafodd ei addysgu yn Rhydychen cyn dod o hyd i waith fel darlithydd iau ym Mhrifysgol Abertawe ym 1949 a bu'n byw yn y dref (fel yr oedd bryd hynny) tan 1961.
Pan ddaeth Amis i fyw gyntaf i Abertawe, bu'n aros mewn llety ger Lawnt Neuadd y Ddinas a Chilgant San Helen. Yna, bu'n byw mewn fflatiau a thai yn Sgeti, y Mwmbwls ac Uplands. Pe bai rhywun am greu un, ni fyddai prinder cyrchfannau ar gyfer Llwybr Kingsley Amis yn Abertawe.
Wrth weithio fel darlithydd iau yn Adran Saesneg Prifysgol Abertawe, ysgrifennodd ei nofel gyntaf 'Lucky Jim' (1954) a gafodd ganmoliaeth ryngwladol ac artistig. Ysgrifennodd Amis bedair nofel wrth ddarlithio yn Abertawe. Mae gan yr ail nofel (That Uncertain Feeling - 1955) flas lleol penodol. I'r fath raddau, pan gafodd ei throi'n ffilm ym 1958 (a'i hail-enwi'n 'Only Two Can Play'), defnyddiwyd llawer o leoliadau yn Abertawe. Enw ei drydedd nofel oedd 'I Like It Here' (1958) ac nid oedd dim byd lleol yn ei bedwaredd nofel'Take A Girl Like You' (1960).
Amser maith ar ôl symud o Abertawe a thua diwedd ei oes, enillodd Amis wobr lenyddol fawr ei bri ym 1986, sef Gwobr Booker. Enw'r nofel oedd 'The Old Devils' ac roedd hon hefyd wedi'i lleoli yn Abertawe a chafodd ei throi'n ffilm deledu gan y BBC. Gadawodd Amis Brifysgol Abertawe i fynd i weithio ym Mhrifysgol Caergrawnt ym 1961 er iddo barhau i ddod i aros yma am dair wythnos yn ystod yr haf trwy gydol y 1980au a'r 90au.
Rhoddwyd CBE i Kingsley Amis ym 1981, a chafodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe ym 1985 a chafodd ei urddo'n farchog ym 1990.
Roedd Amis yn awdur (Saesneg) o bwys ganol yr 20fed ganrif a barhaodd i ysgrifennu am 42 flynedd ar ôl i Dylan Thomas farw ym 1953. Ganol yr 20fed ganrif, roedd Abertawe'n ffodus i fod yn gartref i ddwy ddawn lenyddol o bwys; un a anwyd yma (DT) ac un arall a fabwysiadwyd (KA). Rhwng geni un ym 1914 a marwolaeth y llall ym 1995, roedd y ddwy ddawn anhygoel hyn â chysylltiad arwyddocaol ag Abertawe'n rhychwantu'r 20fed ganrif.
SYLWER: Mae'r plac ar eiddo preifat ond gellir ei weld yn eglur o'r llwybr troed cyhoeddus. Peidiwch â thresmasu ar eiddo preifat. A wnewch chi barchu preifatrwydd y preswylwyr wrth ymweld â'r plac hwn.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: 24 The Grove, Uplands, Swansea SA2 0QT
- What 3 Words: blitz.often.rate
- Llwybrau byssus agosaf: Arosfannau bysiau Uplands Post Office, ac The Grove (Shops). Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.