Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas i Cwmdonkin Park

Gwnaed yn enwog gan gerdd Dylan Thomas 'The Hunchback in the Park'

Cwmdonkin Park blue plaque unveiling

Lleoliad y plac: Pafiliwn Parc Cwmdoncyn

Roedd bob amser yn rhan o'r cynllun placiau glas i gofio nid yn unig pobl enwog ond lleoedd a digwyddiadau yn Abertawe â phlac. Yn y ffordd hon, gall y cynllun dynnu sylw at bobl ac adeiladau ond hefyd y mannau rhyngddynt.

Mae gan Abertawe 48 o barciau o fewn ei ffiniau. O ystyried bod poblogaeth Abertawe bellach tua 240,300, mae hynny'n golygu bod gennym barc am bob 5000 o breswylwyr.

Agorwyd Parc Cwmdoncyn 140 o flynyddoedd yn ôl pan oedd y ddinas yn dal i fod yn borthladd diwydiannol ag ymerodraeth fasnachu byd-eang. Costiodd £4,650 i brynu'r tir ac yn ddadleuol cyfrannodd y Fwrdeistref at y swm hwnnw.

Nid oedd parciau yn y 1870au yn cael eu hystyried yn amwynder hyfryd - yn hytrach fel modd i wella afiechyd ac arferion gwael gan roi lle i weithwyr ymlacio mewn awyrgylch hyfryd.

Efallai fod y parc yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gysylltiad â Dylan Thomas ac roedd yn rhan o dirlun ei blentyndod ac am ei fod wedi ysbrydoli ei gerdd 'The Hunchback in the Park'. Ynghyd â'r tŷ yn Rhodfa Cwmdoncyn, rydym yn hynod ffodus ein bod yn gallu amsugno peth o amgylchedd Dylan Thomas mewn dinas sy'n gwybod ac yn gwerthfawrogi gwerth amwynder a'r amgylchedd.


Sut i gyrraedd yno:

  • Cyfeiriad: Parc Cwmdonkin, 24 Eden Ave, Uplands, Swansea SA2 0PS
  • What 3 Words: tunes.rods.device
  • Llwybrau byssus agosaf: Arosfannau bysiau Uplands Post Office, The Grove (Shops), ac Cwmdonkin Park.  Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni
  • Meysydd parcio agosaf y Cyngor: 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2024