Plac glas i Pete Ham
I gofio am y cerddor roc, aelod o'r Iveys a Badfinger
Lleoliad y Plac: Wal allanol ger y brif fynedfa - Gorsaf Drenau'r Stryd Fawr
Dyma oedd plac glas cyntaf y cynllun presennol ac fe'i dadorchuddiwyd ar 27 Ebrill 2013 yng Ngorsaf Fysus Stryd Fawr Abertawe. Cafodd ei gysegru i'r cerddor roc Pete Ham (1947-1975) bu farw'n druenus o ifanc. Ganwyd Ham yn Abertawe ac roedd yn un o sefydlwyr y grŵp roc Badfinger a gafodd lwyddiant mawr yn y siartiau ac o ran albymau yn y 1970au cynnar. Caiff ei gofio fwyaf am ysgrifennu "Without You" a gafodd lwyddiant byd-enwog pan gafodd ei recordio gan Harry Nilsson ym 1972.
Gosodwyd y plac y tu allan i Orsaf Drenau'r Stryd Fawr oherwydd ei agosrwydd at Ivey Place sydd yn union gyferbyn â'r lle y byddai'r band yn cwrdd i ymarfer. Cyn iddynt gael eu henwi'n Badfinger, defnyddiodd y band yr enw The Iveys ar ôl y lle hwn.
Archwilio ymhellach
Cedwir rhaglen ddogfen y BBC "They Sold A Million: Badfinger" gan yr Archif Ddarlledu Genedlaethol, y gallwch ei gweld drwy adnodd Clip Cymru yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: Swansea Station, High Street, Swansea, SA1 1NU
- What 3 Words: record.sentences.hears
- Llwybrau byssus agosaf: High Street Station bus stop. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.
- Meysydd parcio agosaf y Cungor: Maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr.