Plac glas i San Helen - Cartref Clwb Criced Abertawe
Yn 2016, mae Maes San Helen yn gartref i Glwb Criced Abertawe ac yn un o leoliadau Clwb Criced Morgannwg
Lleoliad y plac: Lôn Gorse.
Yn ystod ei hanes 142 o flynyddoedd, mae'r maes wedi gweld rhai o'r gemau criced rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol mwyaf cyffrous ac enwog. Mae Abertawe hefyd yn gallu ymfalchïo yn y ffaith mai dyma'r clwb criced hysbys hynaf yng Nghymru, yn dyddio o 1785.
Fe'i sefydlwyd ym 1873 fel cartref Clwb Criced Abertawe, ac ers hynny mae San Helen wedi cydio yn nychymyg y cyhoedd sy'n dwlu ar y gamp ac wedi chwarae rôl hanfodol yn hanes cymdeithasol a hamdden yr ardal. Yn wir, yn ddiweddar disgrifiodd y cyn-gricedwr sydd bellach yn sylwebu, Peter Walker, faes San Helen fel "cartref ysbrydol criced Cymru".
Dros y blynyddoedd, mae San Helen wedi profi rhai o fuddugoliaethau enwocaf Clwb Criced Morgannwg. Mae'r rhain yn cynnwys:
Curo Awstralia ym 1964 ac ym 1968.
Ym 1968, Syr Garfield Sobers, a oedd yn chwarae i Swydd Nottingham, oedd y chwaraewr cyntaf yn hanes criced i daro chwe chwech mewn pelawd.
Ym 1976, sgoriodd Clive Lloyd y ddau gant cyflymaf ar gofnod pan oedd yn batio dros India'r Gorllewin yn erbyn Morgannwg.
Ym 1985, sgoriodd Matthew Maynard gant pan oedd yn chwarae dros Forgannwg am y tro cyntaf, batiad a oedd yn cynnwys taro tri chwech yn olynol.
Mae etifeddiaeth San Helen fel maes criced pwysig yn parhau heddiw gan mai dyma'r lleoliad ar gyfer gemau Clwb Criced Abertawe yn Uwch-gynghrair Griced De Cymru. Bydd Morgannwg hefyd yn chwarae yma'n flynyddol yn ystod Gŵyl Griced Abertawe a Gorllewin Cymru.
Mae San Helen hefyd yn gartref i adran iau Clwb Criced Abertawe, criw o gricedwyr ifanc ymroddedig ac addawol.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: St. Helen's, Bryn Rd, Brynmill, Swansea SA2 0AR
- What 3 Words: rock.leaves.slides
- Llwybrau byssus agosaf: Sale bws St Helen's Cricket Ground. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.
- Meysydd parcio agosaf y Cyngor: Maes parcio Blaendraeth San Helen.