Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas i Saunders Lewis

Dramodydd, beirniad llenyddol, sefydlydd Plaid Cymru

Saunders Lewis photo

Lleoliad y Plac: Rhoddwyd y plac ar wal sydd bellach yn rhan o gyfadeilad llety Tŷ Mawr.

Saunders Lewis (g. 1893 - m. 1985)

Roedd Saunders Lewis yn fardd, yn ddramodydd, yn hanesydd, yn feirniad llenyddol ac yn weithredydd gwleidyddol o Gymru. Roedd yn genedlaetholwr blaenllaw ac yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Cydnabyddir Lewis fel arfer fel un o lenorion Cymraeg mwyaf blaenllaw'r 20fed ganrif. Roedd yn enwebai llenyddiaeth am Wobr Nobel ym 1970 a daeth yn 10fed ym mhôl piniwn BBC Cymru yn 2005 i enwi'r Cymro gorau erioed.

Roedd Saunders Lewis yn byw am gyfnod (1916-24) mewn tŷ o'r enw Ffynone Villas ar yr hyn a fu'n Deras Ffynone gynt. Ers hynny, mae'r tŷ wedi'i ddymchwel a newidiwyd enw'r heol i Stryd Hanover.

Archwilio ymhellach

Cedwir yr archifau sy'n trafod hanes Plaid Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae gwefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru yn cynnig llawer o wybodaeth am hanes y blaid ers ei sefydlu ym 1924.

SYLWER: Mae'r plac hwn ar eiddo preifat ond gellir ei weld ar flaen yr adeilad wrth gerdded heibio iddo. A wnewch chi barchu preifatrwydd y preswylwyr wrth ymweld â'r plac hwn.


Sut i gyrraedd yno:

  • Cyfeiriad: Ty Mawr, Hanover St, Swansea SA1 6BD
  • What 3 Words: bulb.teach.able
  • Llwybrau byssus agosaf: Arosfannau bysiau Brunel Court ac St. George's Hotel. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2024