Parc glas i Vernon Watkins
I gofio am fardd dylanwadol
Lleoliad y plac: 77 Heol San Helen.
O'r ddau fardd pwysig mae'r ddinas hon wedi'u cynhyrchu, bu Vernon Watkins (1906 - 1967) yn byw'r bywyd mwy confensiynol i raddau helaeth. Bu'n gweithio mewn cangen o Fanc Lloyds Bank fel clerc am 38 mlynedd o'i oes rhwng 1928 a 1966. Â rhywfaint o eironi, mae'r gangen hon o Lloyds bellach yn siop fetio. Roedd sefydlogrwydd a strwythur oriau bancio'n rhoi llwyfan iddo farddoni.
Roedd ei ffrind da ac un arall o fechgyn y Kardomah, Dylan Thomas, yn gwbl wahanol iddo ac yn mwynhau'r ffordd arall o fyw. O ganlyniad, roedd Vernon Watkins yn fwy confensiynol ac nid yw wedi ennyn dychymyg y cyhoedd yn yr un ffordd sy'n siomedig - ond nid yw'n taflu cysgod ar hud nac ansawdd ei farddoniaeth.
Yn ystod ei awr ginio, byddai'n cerdded i lawr Heol San Helen i gaffi Lovell ger y YMCA i eistedd ar ford dawel yn y cefn lle gallai fwyta brechdan a darllen barddoniaeth. Ni fyddai ei swydd fel clerc yn y banc yn rhoi cyfle iddo gael awr ginio feddwol yn y dafarn ac ni fyddai wedi dymuno gwneud hynny.
Archwilio ymhellach:
Gall yr arddangosfa yng Nghanolfan Dylan Thomas daflu rhagor o oleuni ar griw Kardomah yn y 1930au. Gallwch hefyd ddal i gael ymdeimlad go iawn o'r criw drwy fynd i gaffi Kardomah.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: 77 St Helen's Rd, Swansea SA1 4BG
- What 3 Words: giving.stage.dips
- Llwybrau byssus agosaf: Arosfannau bysiau St Helens Road, ac Beach Street. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.
- Meysydd parcio agosaf y Cyngor: Maes parcio Baddonau.